Rydym yn hapus i dderbyn ac ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. Mae ein holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallwn ystyried cwynion:
Gwelwch y dolenni i’n llyfrynnau isod a darllenwch y llyfryn sy’n berthnasol i’r fath o gŵyn yr ydych yn dymuno ei gyflwyno. Bydd yr wybodaeth a geir ynddynt yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio ichi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio i gael gwybodaeth am wneud cwyn. Os, ar ôl ystyried y wybodaeth, yr ydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, gallwch wneud hyn drwy:
Os yr ydych yn dymuno cwyno am gorff cyhoeddus, bydd ein ffurflen cwyno ar-lein yn rhoi cymorth ichi adnabod y corff yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn (os yw eich cwyn yn ymwneud â darparwr gofal annibynnol, gofynnir i chi roi ei fanylion). Os yr ydych yn penderfynu cwblhau’r ffurflen brintiedig, fe’ch cymhellir i weld bod y sefydliad yr ydych eisiau cwyno amdano o’r math y gallwn edrych i mewn iddo (mae’r rhestr ar gael yma).
Er mwyn eich helpu i ddeall sut y byddwn yn ymdrin â’ch cwyn, gallwch gyrchu ein siartiau llif yma ac yma.
Canllawiau ar sut i gwyno i ni
Eisiau cwyno am gorff cyhoeddus?
Eisiau cwyno am y gofal rydych yn talu amdano?
Sut i gwyno am aelod o awdurdod lleol
Taflen sut i gwyno ar gyfer plant
Y Broses Ymdrin â Chwynion – Crynodeb
Proses Gwyno’r Cod Ymddygiad – Crynodeb
Y broses cwyno ar lafar (siart llif)
Cyfathrebu am eich cwyn – Taflen Wybodaeth
Ewch i’n tudalen Hygyrchedd yma.
Llwythwch y ffurflen briodol: (Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ddarparwr gwasanaeth ar gyfer cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac annibynnol.)
Ffurflen gwyno am ddarparwr gwasanaeth
Ffurflen cwyno am ddarparwr gwasanaeth (Hawdd ei Ddarllen)
Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Ni ystyriwn ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.
Credwn y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddem yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.