Seminar Delio â Chwynion yn y Sector Iechyd 2017

Yn dilyn ein hadroddiad thematig yn ddiweddar, Rhoi Diwedd ar yr un Hen Gân Feunyddiol- Dysgu Gwersi o Ddelio’n Wael â Chwynion’  fe wnaethom gynnal seminar ar gyfer staff yn y sector iechyd i rannu arferion gorau o ran delio â chwynion. Rhoddwyd cyflwyniadau ar siwrnai gwynion y GIG a sefydlu rhwydweithiau trin cwynion gan gynrychiolwyr o Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG ac Awdurdod Safonau Cwynion/Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban.

Nod y seminar oedd annog cyrff i ddefnyddio cwynion fel offeryn dysgu, ac rydym yn gobeithio gweld rhwydwaith cwynion yn cael ei sefydlu yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad ar y seminar ac adborth i’r gweithdy ar gael isod:

Seminar Delio â Chwynion yn y Sector Iechyd Crynodeb

Adborth i Weithdy’r Seminar Delio â Chwynion yn y Sector Iechyd

Seminarau Cydweithio ac Ymarfer Gorau – 2015

Ym mis Chwefror 2015 cynhaliodd yr Ombwdsmon gyfres o seminarau ar gyfer cyrff yn yr awdurdodaeth o’r enw ‘Cydweithio ac Ymarfer Gorau’.

Roedd y seminarau’n gyfle i lansio ein dogfen ymgynghori Egwyddorion Gweinyddu Da a Rheoli Cofnodion yn Dda ar ôl cynnal adolygiad ar y cyd â’r Comisiynydd Gwybodaeth o ddogfen wreiddiol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ‘Egwyddorion Gweinyddu Da’ a gyhoeddwyd yn 2008.

Ar ben hynny, cafwyd cyflwyniadau ar ‘ymarfer gorau wrth ddelio â chwynion’ gan gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymdeithas Tai Wales & West, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Grŵp Gwalia a Chartrefi Cymoedd Merthyr.

Mae copïau o’r cyflwyniadau a roddwyd yn y seminarau ar gael isod.

Pob Seminar

Ymarfer Gorau Bangor

Ymarfer Gorau Caerfyrddin

Ymarfer Gorau Casnewydd