Sefydlwyd ein swyddfa ym mis Ebrill 2006 gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2005. Diwygiwyd y Ddeddf hon yn 2019 i ddod yn Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”). Y Goron sy’n penodi ‘Ombwdsmon’ ac mae’r Ombwdsmon presennol, Michelle Morris, wedi bod yn ei swydd ers mis Ebrill 2022.
Ein rôl yw:
- ystyried cwynion bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru;
- ystyried cwynion bod cynghorwyr Cymru wedi torri eu Cod Ymddygiad; a
- gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru.
Mae pob ymchwiliad yn annibynnol ac yn cael ei gynnal yn breifat. Mae ymchwilwyr yn edrych i weld a yw corff cyhoeddus wedi gweithredu yn briodol ac wedi bod yn deg yn ei driniaeth, a phan fydd pethau wedi mynd o’u lle, caiff argymhellion eu gwneud i unioni pethau.
Rhoddodd Deddf 2019 bwerau ychwanegol i ni ymchwilio lle gallai fod methiannau systemig yn y gwasanaeth, hyd yn oed heb i gŵyn ddod i law. Mae’r rhain yn cael eu galw yn ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’ a gallwn ymgymryd â’r rhain os yw ein meini prawf yn cael eu bodloni ac os yw hynny er budd y cyhoedd.
Crëwyd yr Awdurdod Safonau Cwynion hefyd o dan Ddeddf 2019 a’i nod yw ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus. Tasg yr Awdurdod Safonau Cwynion yw gweithio gyda chyrff cyhoeddus o fewn ein hawdurdodaeth i:
- gefnogi ymdrin â chwynion yn effeithiol
- casglu a chyhoeddi data
- darparu pecynnau hyfforddi pwrpasol
Michelle Morris, Ombwdsmon
Roeddwn wrth fy modd i ymgymryd â rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym mis Ebrill 2022.
Cyn i mi ddod yn Ombwdsmon, bûm yn gweithio ym maes datblygu cymunedol a llywodraeth leol am bron i 35 mlynedd mewn rolau corfforaethol ac arwain. Roedd hyn yn cynnwys nifer o swyddi uwch mewn llywodraeth leol, yng Nghymru a’r Alban, fel Cynorthwyydd, Dirprwy ac yna Prif Weithredwr.
Ar hyn o bryd rwy’n rhan o’r Grŵp Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, gan weithio ar y cyd ag Ombwdsmon ar draws y DU.
Rwy’n dod yn wreiddiol o Sir Benfro a dychwelais i’r Sir yn ddiweddar i fyw. Ar ôl mynychu ysgolion lleol astudiais ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Cranfield a Phrifysgol Morgannwg ac mae gennyf MSc. mewn Marchnata ac MBA.
Mae’r gwaith a wnawn yn OGCC yn rhan bwysig o Sector Cyhoeddus Cymru ac yn darparu gwasanaeth annibynnol a diduedd i ystyried methiannau wrth ddarparu gwasanaethau a honiadau o dorri Cod Ymddygiad y Cynghorwyr. Rydym yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn ac yn gwneud cyfraniad pwysig at wella gwasanaethau cyhoeddus.
Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Gweithredol - Gwaith Achos a Chyfreithiol
Magwyd Katrin yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru, a mynychodd Brifysgol Sheffield Hallam lle enillodd radd BA yn y gyfraith. Yn 1996, cafodd ei derbyn fel Cyfreithwraig a gweithiodd fel cyfreithwraig llywodraeth leol cyn iddi ymuno â swyddfa’r Ombwdsmon fel Ymchwiliwr yn 2001. Ers hynny, mae Katrin wedi gweithio swyddi rheoli yn y swyddfa a bellach yn Brif Gynghorwr Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau OGCC.
Mae rolau eraill Katrin wedi cynnwys bod yn aelod o Gyngor Cyfiawnder Gweinyddol y DU, yn Gadeirydd o Grŵp Buddiant Cyfreithiol Cymdeithas yr Ombwdsmon, ac yn Gomisiynydd Dros Dro ar gyfer Safonau Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon, gan ddyfarnu achosion lle mae cynghorwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi methu â chydymffurfio â’u Cod Ymddygiad.
Mae Katrin yn ymddiriedolwr i Age Connects Castell-nedd Port Talbot ac yn Aelod o Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Sarah King, Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol
Aelodau'r Tîm Rheoli
Annie yw’r Pennaeth Safonau Moesegol ac Ymchwiliadau ar ei Liwt ei Hun/Dirprwy Cynghorydd Cyfreithiol. Cafodd Annie ei derbyn fel Cyfreithiwr yn 2002 a gweithiodd mewn practis cyfreithiol preifat cyn ymuno ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn 2009. Rhwng 2009 a 2020 bu Annie yn gweithio mewn nifer o rolau gweithredol yn cwmpasu holl feysydd awdurdodaeth yr Ombwdsmon ac yn dylanwadu ar welliant mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Yn 2020, symudodd Annie i’r Awdurdod Monitro Annibynnol fel y Pennaeth Ymchwiliad ac yna i’r Comisiwn Ansawdd Gofal fel Rheolwr Ymchwiliad Cyhoeddus. Dychwelodd Annie i swyddfa’r Ombwdsmon yn 2023 ac mae hi bellach yn gyfrifol am Rheolwr y Tîm Cod Ymddygiad a Gwaith a thimau Ymchwiliadau ar ei Liwt ei Hun, Rheoli Gwybodaeth a Chefnogi Gwaith Achos yr Ombwdsmon.
Ymunodd Andrew â’r sefydliad ym mis Hydref 2017 ar ôl iddo raddio o Ysgol Busnes Caerdydd. Yn ystod ei gyfnod yn OGCC, mae Andrew wedi gweithio tuag at ei gymhwyster ACCA, gan ennill y marc uchaf yng Nghymru yn 2019, a chymhwyso fel cyfrifydd siartredig yn 2020. Dechreuodd Andrew ei rôl fel Rheolwr Cyllid ym mis Awst 2023.
Mae gan Marilyn brofiad helaeth o’r sector cyhoeddus ar ôl gweithio i bum Cyngor yng Nghymru. Mae ganddi hefyd brofiad helaeth o’r sector preifat a’r trydydd sector. Yn Gymrawd Siartredig y CIPD, mae Marilyn wedi gweithio ym maes Adnoddau Dynol a Hyfforddiant am ei holl yrfa sy’n ymestyn dros 40 mlynedd. Ymunodd ag OGCC ym mis Ionawr 2021 pan sefydlwyd rôl newydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol.
Daw Dewi Gaylard â phrofiad helaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, ar ôl gweithio mewn uwch rolau mewn sefydliadau megis Banc Datblygu Cymru, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, ac eraill. Gyda chefndir cryf mewn TG, cyflawni prosiectau a llywodraethu, cyfuna Dewi fewnwelediad strategol ag arbenigedd ymarferol i yrru gwelliant gweithredol a thrawsnewid digidol. Mae ei brofiad traws-sector a’i ymrwymiad i arfer gorau yn ei wneud yn gynghorydd dibynadwy wrth ddylunio a gweithredu atebion diogel ac effeithlon, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Panel Ymgynghorol a Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae’r Panel Ymgynghorol yn fforwm anstatudol a’i brif rôl yw cefnogi’r Ombwdsmon wrth arwain y swyddfa a’i llywodraethu’n dda.
Mae’r Panel Ymgynghorol yn rhoi cyngor a chymorth penodol i’r Ombwdsmon ar:
- gweledigaeth, gwerthoedd a dibenion;
- cyfeiriad strategol a chynllunio;
- perfformiad gweithredol, atebolrwydd a chyflawni
Hefyd, mae’r Panel Ymgynghorol yn cynnig persbectif allanol i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu polisïau ac arferion.
Cynghori yn unig yw gwaith y Panel Ymgynghorol, ac nid yw’n gwneud penderfyniadau drwy ei hawl ei hun.
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cefnogi’r Ombwdsmon drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynnol yw’r sicrwydd ynghylch llywodraethu, rheoli risg, amgylchedd rheoli a didwylledd datganiadau ariannol a’r adroddiad blynyddol.
Aelodau'r Panel Ymgynghorol a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae Laura yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid TG Byd-eang i Unilever ac mae ganddi fwy nag 20 mlynedd o brofiad ar draws amrywiaeth o rolau cyllid gan gynnwys Cysylltiadau a Rheolaethau Buddsoddwyr. Mae hi’n gyfrifydd rheoli siartredig ac yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli ac mae ganddi radd mewn Ffrangeg gydag Astudiaethau Rhyngwladol.
Mae Laura yn Ymddiriedolwr o Gronfa Bensiwn DU Unilever, yn gwasanaethu ar y Bwrdd a’r Pwyllgor Archwilio a Risg. Yn y gorffennol, mae Laura hefyd wedi gweithio ar fyrddau elusen yn y sector ieuenctid.
Aelod o’r Panel Ymgynghorol
Roedd Carys yn Bennaeth Data a Dealltwriaeth yn S4C nes 2019, yn defnyddio ystod o dechnegau ansoddol a meintiol i ddadansoddi tueddiadau cynulleidfaoedd ac anghenion sy’n newid. Bu’n gweithio yn y gorffennol hefyd i CBAC, ITV Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.
Mae Carys wedi gwasanaethu fel Aelod o Fwrdd Cyngor Defnyddwyr Cymru rhwng 2000 a 2008 ac i Gynulleidfaoedd Cymru rhwng 2006 a 2015.
Aelod o’r Panel Ymgynghorol
Ymunodd Felicity â’r Panel Ymgynghorol ym mis Hydref 2024. Cymhwysodd fel bargyfreithiwr ac ar hyn o bryd mae’n ymgynghorydd annibynnol yn gweithio yn y sector ombwdsmon. Rhwng 2018 a 2023, bu’n Ddyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch yn yr SDA, cynllun yr ombwds ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru a Lloegr. Mae Felicity hefyd wedi gweithio i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a chyn hynny i’r Ombwdsmon Bancio.
Roedd Felicity yn gyfarwyddwr i Gymdeithas yr Ombwdsmon rhwng 2019 a 2023, gan ddod yn Is-Gadeirydd, ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Dilysu, yn 2021.
Rhwng 2016 a 2021, roedd Felicity yn Gynghorydd Sir yng Nghyngor Sir Hampshire. Bu’n Gadeirydd ar Bwyllgor Dethol yr Economi, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, ac yn aelod o’r Pwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion, Polisi ac Adnoddau, ac Archwilio.
Mae Felicity yn gwirfoddoli i ddwy elusen sy’n gweithio ym maes cwnsela ar ddyledion, ac i ddwy elusen datblygu byd-eang.
Aelod o’r Panel Ymgynghorol
Mae Sue wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr ers dros 40 mlynedd. Gan symud i Gymru ym 1986, bu’n gweithio yn Mencap cyn cael seibiant i fagu dwy ferch. Dechreuodd Sue weithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer ym 1995 fel gweinyddwr yn dilyn marwolaeth ei thaid a fu’n dioddef ag Alzheimer. Gweithiodd mewn nifer o rolau datblygu gwasanaeth, rheoli ac arwain cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwlad yng Nghymru ym mis Medi 2017. Gan weithio ochr yn ochr â phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, gyda’u llais yn ganolog, bu’n ymgyrchu ac yn cefnogi hawliau pawb â dementia a’r sawl sy’n gofalu amdanynt, gan hyrwyddo’r angen am fuddsoddiad mewn ymchwil i roi gobaith ar gyfer y dyfodol. Roedd Sue yn falch iawn o dderbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017 am wasanaethau i ddementia yng Nghymru. Mae Sue yn frwd dros chwaraeon ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Annibynnol ar Fwrdd Criced Cymru ers 2018. Mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor EDI ac aelod o’r Is-bwyllgor Cyllid.
Aelod o’r Panel Ymgynghorol
Mae Nia wedi gweithio mewn sawl rôl ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Ymgysylltu Ymchwil ac Arloesi yn Llywodraeth Cymru. Mae hi’n Dwrnai Patent Ewropeaidd, yn Ffisegydd Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Ffiseg. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Nia yn siaradwr Cymraeg ac yn byw yn Llandudno, Gogledd Cymru. Mae Nia wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau anweithredol gan gynnwys fel aelod o Rwydwaith Cynghori Strategol ar gyfer y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, aelod o Bwyllgor Sefydliad Ffiseg Cymru a chyn hynny fel Cadeirydd Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd.
Aelod o’r Panel Ymgynghorol
Mae Grace Quantock yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy ac yn gwnselydd seicotherapiwtig sydd wedi’i hachredu gan UKCP. Mae ei phrofiad proffesiynol yn rhychwantu llywodraethu gofal iechyd, seicotherapi, menter gymdeithasol a phenodiadau cyhoeddus, gyda ffocws arbennig ar ddiwylliant sefydliadol, diogelwch, cynhwysiant a thegwch.
Mae Grace yn gwasanaethu fel Aelod Panel Annibynnol ar gyfer penodiadau cyhoeddus ac yn ymgymryd â gwaith dethol gyda’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gyfrannu at brosesau penodi teg, tryloyw ac wedi’u seilio ar dystiolaeth.
Ochr yn ochr â’i rolau ym maes llywodraethu a phenodiadau cyhoeddus, mae Grace yn fentor gydag Pwer Cyfartal, Llais Cyfartal, gan ganolbwyntio ar ehangu cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus, hyrwyddo arferion cynhwysol a gwella profiadau pobl o wasanaethau.
Mae’n dod â diddordeb mewn llywodraethu effeithiol, dysgu sefydliadol, atebolrwydd cyhoeddus a sicrhau bod gwasanaethau’n deg, yn hygyrch ac yn ymatebol i’r cymunedau amrywiol y maent yn eu gwasanaethu i waith y Panel Ymgynghorol.
Aelod o’r Panel Ymgynghorol
Mae Ruth yn uwch-arweinydd yn sectorau cyhoeddus a gwirfoddol Cymru, gyda 25 mlynedd o brofiad ym maes arweinyddiaeth strategol, llywodraethu, gwella gwasanaethau cyhoeddus, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu sefydliadol.
Ymddeolodd o’i swydd amser llawn fel Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn 2024 a dyfarnwyd CBE iddi yn 2025 am ei gwasanaethau i’r sector gwirfoddol a phartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae gan Ruth ddau benodiad cyhoeddus yng Nghymru: fel Aelod Annibynnol o’r Bwrdd Sicrwydd ar gyfer y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru, ac fel Uwch-Aelod Panel Annibynnol ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Ruth hefyd yn Gomisiynydd ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ar Gymuned a Chydlyniant, sy’n rôl wirfoddol.
Fel cyn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae ganddi brofiad helaeth o ddarparu her annibynnol, cyngor a chraffu i Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, llywodraeth leol, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol.
Mae Ruth yn arbennig o awyddus i gefnogi gwaith cydweithredol ar y rhyngwyneb rhwng dinasyddion, gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth, gan ddefnyddio tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i wella profiadau pobl ledled Cymru a thu hwnt.
Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Dave oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Comisiwn y Senedd nes iddo ymddeol ym mis Ionawr 2022. Treuliodd Dave 10 mlynedd yn y Senedd a chyn hynny, bu’n gweithio mewn Llywodraeth Leol, y Diwydiant Awyrofod a gwasanaethodd am 12 mlynedd fel Swyddog Comisiynu yn yr Awyrlu Brenhinol. TGCh yw cefndir proffesiynol Dave. Ers ymddeol, mae Dave wedi ymgymryd â rôl ran-amser fel ymgynghorydd hyfforddi a datblygu arweinyddiaeth. Mae Dave hefyd yn eistedd fel Ynad.
Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae Jayne yn aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr gyda bron i 30 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol. Mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau gweithredol ers dros ddeng mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyllid, risg, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd llywodraethu a gweithredol.
Ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel aelod bwrdd a chadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg, Cymwysterau Cymru a Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil). Mae hi’n aelod annibynnol o Bwyllgor Cyfalaf Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg, Comisiynydd y Gymraeg.
Cyn hynny, roedd Jayne yn Brif Swyddog Cyllid i Gomisiynydd yr Heddlu, bu’n gwasanaethu ar Fwrdd cymdeithas dai, yn gwasanaethu ar Fwrdd coleg addysg bellach ac yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg mewn prifysgol. Mae Jayne yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn byw yng Nghaerfyrddin.
Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Ynyr wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd. Yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ymddeolodd yn ddiweddar o Trafnidiaeth Cymru, lle’r oedd yn gyfrifol am nifer o feysydd gan gynnwys strategaeth, TG cynllunio busnes, a seiberddiogelwch. Yn flaenorol, bu’n gweithio i BT, lle’r oedd yn arwain strategaeth y DU ar gyfer cyflwyno band eang, yn rheoli perthynas BT â phob Awdurdod Lleol yn y DU, ac yn arwain y gwaith o gyflwyno band eang ffibr yng Nghymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae’n Beiriannydd Siartredig ac yn meddu ar raddau mewn Peirianneg Electronig a Busnes. Mae Ynyr yn aelod cyfetholedig gwirfoddol o Bwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Bangor, yn atgyweiriwr gwirfoddol yn y caffi atgyweirio lleol, yn feiciwr brwd, ac mae wedi bod yn ymddiriedolwr elusen ac yn drysorydd i gôr lleol ers blynyddoedd lawer.
- Ewch i Gylch Gorchwyl y Panel Ymgynghorol
- Ewch i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
- Ewch i Bolisi ar Ddatgan Buddiannau i Aelodau'r Panel Ymgynghorol ac Aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
- Ewch i Adolygiad Blynyddol 2025-26 y Panel Ymgynghorol
- Ewch i Adolygiad Blynyddol 2025-26 y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
- Ewch i Gofnodion Cryno ar gyfer eu cyhoeddi o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg - 29 Ebrill 2025
- Ewch i Gofnodion Cryno ar gyfer eu cyhoeddi o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg - 23 Gorffennaf 2025
- Ewch i Gofnodion Cryno ar gyfer eu cyhoeddi o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg - 21 Hydref 2025
- Ewch i Gofnodion Cryno ar gyfer eu cyhoeddi o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg - 27 Ionawr 2026
- Ewch i Gofnodion Cryno ar gyfer eu cyhoeddi o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg - 29 Ebrill 2026