Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Deddf OGCC 2019) yn caniatáu i ni ymchwilio i gwynion a wneir gan aelodau o’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi dioddef caledi neu anghyfiawnder oherwydd camweinyddu neu fethiant mewn gwasanaeth ar ran corff cyhoeddus yn fy awdurdodaeth, sydd yn ei hanfod yn cynnwys yr holl sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus a ddatganolwyd i Gymru.

Mae’r pwerau ‘ar fy liwt fy hun’ a ddyrannwyd i ni o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Deddf OGCC 2019) yn caniatáu i ni ymchwilio pan fo tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiannau systematig, hyd yn oed os nad yw defnyddwyr gwasanaeth eu hunain yn gwneud cwynion.

Mae’r ddeddf hefyd yn sefydlu’r Awdurdod Safonau Cwynion (CSA) er mwyn ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy gefnogi delio â chwynion yn effeithiol drwy weithdrefnau model, hyfforddi a chasglu a chyhoeddi data ynghylch cwynion.