Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth ymateb. Mae ein holl ddogfennau hefyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Os ydych am ein ffonio, mae gennym rif ffôn 0300 790 0203 . Mae hyn yn golygu mai’r gyfradd llinell dir arferol fydd cost bob galwad, ni waeth o ba ran o’r wlad rydych yn ei ffonio, a hynny hyd yn oed os byddwch yn defnyddio ffôn symudol.

Mae ein llinell ffôn ar agor rhwng 10yb-12:30yp a 1:30yp-4yp.

Rydym yn recordio ein galwadau (ffôn a galwadau sain/fideo eraill), oherwydd gall ail-wrando ar sgyrsiau fod yn ddefnyddiol i ni i’n helpu i ddeall yr hyn a ddywedwyd wrthym. Caiff galwadau eu recordio a’u storio ar ein systemau.

Am ragor o wybodaeth am ein hygyrchedd, ewch i’n tudalen Hygyrchedd.

Os yw eich ymholiad yn argyfwng, rydym yn hysbysu nad ydym yn ymateb i ymholiadau brys a bydd angen i chi gysylltu â’r awdurdodau perthnasol.

Byddwch yn ymwybodol nad ydym yn gweithredu ar sail gohebiaeth a anfonwyd atom fel copi.

Byddwn yn ymateb i’ch ymholiad cyn gynted â phosibl, ond o fewn 5 diwrnod gwaith.

Ein cyfeiriad post yw:

Ombwdson Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed
CF35 5LJ

Os ydych yn disgwyl e-bost gennym, gwiriwch eich ffolder ‘sothach’. Rydym yn argymell ychwanegu ein cyfeiriad e-bost at eich rhestr anfonwyr diogel i sicrhau eich bod yn derbyn ein negeseuon e-bost.

Mae croeso i chi anfon e-bost atom:

holwch@ombwdsmon.cymru