Ein nod yw dileu, lleihau ac atal unrhyw rwystrau i fynediad ar gyfer pobl sy’n cwyno i ni.


Cymorth cyngor ac eiriolaeth

Pan fyddwn yn edrych ar gwynion, mae’n rhaid i ni fod yn annibynnol ac ni allwn weithredu fel eiriolwr i chi.

Ond, efallai bod arnoch angen help i wneud eich cwyn. Felly, rydym wedi casglu manylion rhai sefydliadau sy’n gallu cynnig cyngor ac eiriolaeth.

I weld y rhestr, cliciwch yma.


Sut y gallwn eich cefnogi chi?

Gwnawn ein gorau i’ch helpu i ddefnyddio ein gwasanaeth, cyn belled â bod yr hyn sydd ei angen arnoch yn rhesymol a chymesur.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, bydd bob amser yn ddefnyddiol pe baech yn rhoi gwybod i ni am eich anghenion a / neu os gallwch awgrymu pa gymorth fyddai’n gweithio i chi.

Gall eich sefyllfa newid dros amser. Os bydd hynny’n digwydd, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am eich anghenion wrth i ni edrych ar eich cwyn.

Clawr taflen: Sut y gallwn ni eich helpu chi i ddefnyddio ein gwasanaeth

Am drosolwg bras o’r gefnogaeth sydd ar gael,  gweler y daflen isod:

Sut y gallwn ni eich helpu chi i ddefnyddio ein gwasanaeth

 

 

Isod, mae enghreifftiau o sut rydym yn gallu helpu:

 

Rydw i’n fyddar neu mae gen i nam ar fy nghlyw

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cyfieithu sy’n rhad ac am ddim, SignVideo, i siarad â ni (ar gael rhwng 10yb-12:30yp a 1:30yp-4yp, Dydd Llun i Ddydd Gwener).

Cyn y gallwch chi ddefnyddio SignVideo BSL byw, sicrhewch eich bod yn bodloni’r gofynion sylfaenol hyn:

  • Dyfeisiau iOS (8 neu uwch); dyfeisiau Android (4.4 neu uwch); Cyfrifiadur (i3 neu uwch) neu Mac gyda gwe-gam
  • IE9-11 neu Firefox ar gyfer Windows, Safari ar gyfer Mac
  • Lle band o leiaf 256 kbk/s ar gyfer llwytho a lawrlwytho (Argymhellir 348 kbp/s).

Os dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi lawrlwytho ‘plug-in’ byw. Mae hwn yn feddalwedd arbennig sy’n sicrhau bod ansawdd y fideo yn dda a bod eich galwad yn ddiogel.

Cliciwch yma i gysylltu â SignVideo. Ar ôl i chi gysylltu â dehonglydd SignVideo, dywedwch wrthynt eich bod yn ffonio’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yna, cewch eich cysylltu a gallwch ddechrau eich sgwrs yn Iaith Arwyddion Prydain.

Yn ogystal, mae bar offer ‘ReachDeck’ ar ein gwefan yn eich galluogi chi i drosi cynnwys ar-lein yn sain ar ein gwefan. Gallwch ddod o hyd i’r bar offer ar hyd y streipen ar frig y wefan.

 

Rydw i’n ddall neu mae gen i nam ar fy ngolwg

Nid oes rhaid i chi lenwi ffurflenni – gallwch gwyno i ni dros y ffôn. Mae mwy o fanylion i’w gweld yma. Gallwn hefyd drefnu i siarad â chi dros y ffôn pan rydym yn ystyried eich cwyn.

Gallwn ddarparu gwybodaeth i chi mewn Braille, mewn print bras neu ar gefndir lliw gwahanol.

Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o opsiynau i’ch helpu llywio drwy’r cynnwys. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar gael ar dudalen Hygyrchedd (cliciwch yma).

 

Mae gen i gyflwr niwrowahanol

Rydym yn gallu cefnogi pobl gyda chyflyrau gwahanol!

Er enghraifft, os oes gennych dyslecsia, nid oes rhaid i chi lenwi ffurflenni – gallwch gwyno i ni dros y ffôn. Mae mwy o fanylion i’w gweld yma. Gallwn hefyd drefnu i siarad â chi dros y ffôn pan rydym yn ystyried eich cwyn.

Mae llawer o’n dogfennau ar gael mewn fformat Hawdd ei Ddeall, er enghraifft ein

Mae gennym statws Cyflogwr Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth. Mae pawb yn ein sefydliad yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth er mwyn gallu eich cefnogi yn well. Mae un aelod o staff hefyd wedi ei dynodi fel Pencampwr Awtistiaeth, ac maen nhw’n gallu cynnig cyngor ar sut i ddiwallu eich anghenion.

Efallai y gallwn:

  • drefnu i siarad â chi dros fideo
  • drefnu i’ch ffonio ar amser penodol, neu roi gwybod i chi pryd y byddwn yn cysylltu â chi
  • os ydych yn bryderus am siarad â phobl nad ydych yn eu hadnabod, gallwn drefnu i chi gael un pwynt cyswllt wrth i ni ddelio â’ch cwyn.

 

Mae gen i anabledd dysgu

Mae llawer o’n dogfennau ar gael mewn fformat Hawdd ei Ddeall, er enghraifft ein

Gallwn gyfieithu dogfennau eraill i mewn i fformat Hawdd ei Ddeall, os oes angen.

 

Dydw i ddim yn siarad Cymraeg neu Saesneg yn rhugl

Gallwn eich cefnogi os dymunwch ddefnyddio iaith arall wrth gyfathrebu â ni.

Ar y streipen ar frig ein gwefan, cliciwch ar ‘Iaith’ a dewiswch eich iaith.  Gallwch hefyd ddefnyddio’r opsiwn yma i gyfieithu ein ffurflen gwyno ar lein yma.

Yn ogystal, gallwn gyfieithu dogfennau i chi neu drefnu cyfieithu ar y pryd pan rydych yn siarad â ni.

Mae llawer o’n dogfennau ar gael mewn fformat Hawdd ei Ddeall, er enghraifft ein

Gallwn gyfieithu dogfennau eraill i mewn i fformat Hawdd ei Ddeall, os oes angen.