Manylion Cyswllt

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â’r cyfryngau, neu i ymuno â rhestr y wasg i gael newyddion OGCC:

E-bostiwch ni yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru neu ffoniwch 0300 790 0203 a phwyswch 3.

 

Canllawiau brand a logo

Ewch i’n canllawiau brand.

Os hoffech ddefnyddio ein logo, cysylltwch â ni yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru fel y gallwn anfon y logo atoch yn y fformat sydd ei angen arnoch.

 

Rhagor o Wybodaeth

Ewch i’n newyddion a datganiadau i’r wasg diweddaraf.

Ewch i Ein Canfyddiadau i bori neu chwilio crynodebau o ganlyniadau ac adroddiadau ymchwiliadau diweddar.

Ewch i’n tudalen LinkedIn.

Ewch i’n tudalen Facebook.

Ewch i’n tudalen Instagram.

Ewch i’n sianel Youtube.

 

Ynglŷn ag OGCC

Fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC), rydym yn gwneud tri pheth:

  • Rydym yn ymchwilio i gwynion a wneir gan aelodau o’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi dioddef caledi neu anghyfiawnder oherwydd bod darparwr gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud pethau yn anghywir. Gallwn ymchwilio i gwynion am y rhan fwyaf o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys llywodraeth leol (cynghorau sir a chynghorau cymuned), y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (gan gynnwys meddygon teulu a deintyddion), landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (cymdeithasau tai), a Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r cyrff a noddir ganddi. Gallwn hefyd ystyried cwynion am ofal cymdeithasol a drefnwyd yn breifat neu ofal cymdeithasol a ariennir, yn ogystal â gwasanaethau gofal lliniarol ac, o dan amgylchiadau penodol, agweddau ar ofal iechyd a ariennir yn breifat.
  • Rydym yn ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr lleol wedi torri Codau Ymddygiad eu hawdurdod, sy’n nodi’r egwyddorion ymddygiad cydnabyddedig y dylai cynghorwyr eu dilyn mewn bywyd cyhoeddus.
  • Rydym yn ysgogi gwelliant systematig mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Mae gennym ddau bŵer penodol sy’n ein helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus. Gallwn lansio ymchwiliad hyd yn oed heb dderbyn cwyn (‘ar ei liwt ei hun’). Fel yr Awdurdod Safonau Cwynion (CSA), gallwn hefyd hyrwyddo ymdrin â chwynion yn dda gan gyrff yn ein hawdurdodaeth drwy osod gweithdrefnau cwyno enghreifftiol, darparu hyfforddiant, a monitro sut mae’r cyrff hyn yn ymdrin â chwynion.