Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â chynnwys sydd wedi’i gyhoeddi ar  www.ombudsman.wales / www.ombwdsmon.cymru

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae hi wedi cael ei chynllunio i gael ei defnyddio gan gynifer o bobl â phosib. Dylai’r cynnwys fod yn glir ac yn hawdd ei ddeall.

 

Defnyddio’r wefan

Dylech allu:

  • gwe-lywio’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd testun-i-lais
  • gwe-lywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • newid maint testun
  • cael gafael ar gynnwys y wefan drwy chwyddo i mewn hyd at 400%.

I alluogi rhai o’r dewisiadau hyn, rydym wedi gosod bar offer ReachDeck, fel y gallwch chi droi deunydd ar-lein yn ddeunydd sain ar ein gwefan. Gallwch chi ddod o hyd i’r bar offer ar hyd y rhes sydd ar frig y wefan.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r dewisiadau hyn drwy eich rheolyddion porwr gwe.  Mae gwahanol borwyr yn defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer newid y gosodiadau hyn, felly bydd angen i chi fynd i’r adran ‘Help’ ar eich porwr i gael gwybod sut i wneud hyn. Mae AbilityNet yn rhoi cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn hawdd ei defnyddio os ydych chi’n anabl.

Mae ein gwefan wedi’i sefydlu i weithio gyda fersiynau cyfredol o’r holl borwyr gwe poblogaidd, fel Microsoft Edge, Firefox, Google Chrome, Opera a Safari. Dylech chi fod yn gallu gweld ein gwefan ar eich ffôn neu ar eich tabled.

Rydym bob amser yn gweithio i wneud testun y wefan yn haws ei ddeall.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan

Nid yw rhai rhannau a nodweddion y wefan hon yn gwbl hygyrch ar hyn o bryd. Ceir rhestr o’r rhain yn yr adran ‘diffyg cydymffurfiaeth’ isod. Rydym hefyd yn esbonio isod sut byddwn yn gwneud ein gwefan yn fwy hygyrch.

 

Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost atom drwy cyfathrebu@ombwdsmon.cymru gan ddarparu’r canlynol:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a’ch cyfeiriad ebost
  • y fformat sydd arnoch ei angen, er enghraifft, Braille, PDF hygyrch neu ddogfen Hawdd ei Deall (lluniau a phrint syml)

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Os ydych chi’n dod ar draws problemau sydd heb gael eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, anfonwch ebost i cyfathrebu@ombwdsmon.cymru

 

Adborth a Gwybodaeth Gyswllt

Os ydych chi’n dod ar draws problemau sydd heb gael eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: cyfathrebu@ombwdsmon.cymru

Os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 5 diwrnod.

 

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Rydym wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r materion isod sydd ddim yn cydymffurfio.

Gwnaeth Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wirio fersiwn blaenorol o’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) ar 26 Chwefror 2024 yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1.

Nid yw rhai pethau yn gwbl hygyrch.

Rydym yn gweithio tuag at gydymffurfio’n llawn â Chanllawiau WCAG. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yw’r corff gorfodi a fydd yn cymryd camau os na fyddwn yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau WCAG.

 

Diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau hygyrchedd.

Problemau gyda’r PDF Cynllun Strategol 2022-2026 – Cliciwch yma i ymweld â’r ddogfen.

Problemau a ddaeth i’r amlwg ar y dudalen
# Problem a disgrifiad Ble daethpwyd o hyd i’r broblem
Problem:1 WCAG 2.4.2 Teitl tudalen

Dylai dogfennau PDF gynnwys teitlau sy’n disgrifio pwnc neu ddiben y dudalen. Mae teitlau’n helpu defnyddwyr i ddeall y pwnc heb orfod darllen y ddogfen gyfan.

Heb deitl disgrifiadol, mae’n bosib y bydd angen i ddefnyddiwr dreulio amser yn chwilio drwy’r ddogfen i benderfynu a yw’r cynnwys yn berthnasol neu beidio.

Pan fydd PDF yn ymddangos mewn porwr, bydd y teitl fel arfer yn cael ei arddangos yn y bar teitl ar frig y dudalen neu fel enw’r tab.

Mae teitl y dudalen ar goll o osodiadau’r ddogfen.
Problem:2 WCAG 1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun

Mae’n bosib na fydd pobl sydd â nam golwg yn gweld delwedd yn glir ar dudalen. Mae angen i chi ddefnyddio testun amgen i rannu’r wybodaeth. Rhaid i’r testun amgen ddisgrifio’r wybodaeth neu’r swyddogaeth sy’n cael eu cynrychioli gan y ddelwedd.

Gall rhaglenni darllen sgrin rannu’r testun amgen gyda’r defnyddiwr. Mewn dogfennau PDF, rhaid i chi sicrhau bod delweddau’n cael eu tagio’n gywir gyda thestun amgen.

Mae elfennau yn y ddogfen heb destun amgen, fel ffigurau logo’r Ombwdsmon a’r delweddau cylchol o dan y pennawd ‘Ein rôl’.

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Roedd yr archwiliad yn pwysleisio mai dim ond ar y rhwystrau mwyaf cyffredin i ddefnyddwyr ag anghenion hygyrchedd yr oedd yn canolbwyntio, ac y gallai archwiliad llawn o’r wefan dynnu sylw at broblemau hygyrchedd eraill.

Mae hon yn wefan newydd. Roedd manyleb y tendr ar gyfer y prosiect hwn yn pwysleisio bod yn rhaid i’r cynnyrch gydymffurfio’n llwyr â W3C, a bod defnyddwyr agored i niwed yn gallu cael gafael ar y cynnyrch yn rhwydd. Byddwn yn trefnu profion hygyrchedd ar gyfer y wefan newydd ar ôl iddi gael ei lansio.

Mae’r wefan newydd ar y trywydd iawn i gael ei lansio’n llawn ar 10 Ebrill 2024.

Byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn pan fydd y wefan newydd wedi’i lansio’n llawn, a byddwn yn diweddaru’r datganiad yn rheolaidd wedi hynny os bydd unrhyw broblemau pellach yn cael eu canfod.

Mae gennym ddwy wefan ar wahân, yn Saesneg (www.ombudsman.wales/) ac yn Gymraeg (www.ombwdsmon.cymru). Os bydd unrhyw broblemau gyda hygyrchedd yn effeithio ar y wefan Saesneg, bydd y problemau hynny’n effeithio ar y wefan Gymraeg hefyd.

 

Baich anghymesur

Rydym wedi cynnal asesiad baich anghymesur ar y camau posib y gallen ni eu cymryd i sicrhau hygyrchedd ein gwefan bresennol. Felly, nid ydym ni’n gallu cynnig fersiynau cwbl hygyrch o’r wefan ar hyn o bryd. Mae’r asesiad yn nodi ein rhesymau dros hyn, ar  y sail ein bod yn parhau i geisio gwneud yr ychydig ddogfennau anhygyrch sy’n weddill mor hawdd i’w darllen a deall, ag y bo modd. I weld yr asesiad llawn, cliciwch yma.

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 12 Mawrth 2024.