Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod aelodau o gyrff llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod. Mae’n annibynnol ar holl gyrff y Llywodraeth ac yn cynnig gwasanaeth annibynnol sy’n rhad ac am ddim.
"Unwaith eto, diolch i chi am bopeth rydych chi wedi’i wneud i ddod â’r bennod i ben ar fy nghyfer i a fy nheulu, ac yn bwysicaf oll, i roi’r gwir i ni."
Ms C
Achwynydd
"Mae’n dangos bod cwyno yn gwneud gwahaniaeth"
Mr N
Achwynydd
"Roedd ein huwch ymchwilydd yn syndod o deg a chlir ac yn anad dim yn graff iawn o ran yr hyn sydd wedi digwydd i ni ar ein taith i gael ein trin yn deg"