Mae’r daflen ffeithiau hon yn egluro sut gallwch chi gwyno am ymddygiad aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a Phaneli’r Heddlu a Throseddu yng Nghymru. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n taflen ffeithiau, “Beth rydym ni’n ei wneud ar ôl cael eich cwyn am ymddygiad aelod o awdurdod lleol”, sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol am ein gwasanaeth.
Mae holl aelodau etholedig a chyfetholedig y cyrff uchod yn rhwym wrth Godau Ymddygiad. Mae’n ofynnol ar bob un o’r awdurdodau perthnasol i fabwysiadu Cod Ymddygiad ar gyfer ei Aelodau sy’n seiliedig ar y Cod Ymddygiad Enghreifftiol a gyflwynwyd yn 2008 (yng Nghymru) (“y Cod”).
Mae’r Cod yn cynnwys safonau gofynnol y gellir eu gorfodi sy’n datgan sut y dylai aelodau ymddwyn, yn broffesiynol ac (mewn rhai achosion) yn bersonol hefyd. Mae’r Cod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i aelodau ‘roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai pob person fod yn gyfartal’; trin pobl eraill â pharch a pheidio ag ymddwyn mewn ffordd sy’n fwlio neu’n harasio. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gyfrinachol, camddefnyddio sefyllfa aelod neu adnoddau awdurdod, a’r gofyniad na ddylai aelodau ymddwyn mewn modd y gellid ystyried yn rhesymol ei fod yn dwyn anfri ar swyddogaeth yr aelod neu’r awdurdod.
Mae’r Cod hefyd yn gosod cyfrifoldebau ar aelodau i ystyried a oes ganddynt “fudd personol” (h.y. gwrthdaro posibl rhwng buddiannau) mewn mater penodol, ac a ddylid datgelu bodolaeth a natur y budd. Os oes budd o’r fath, mae’r Cod yn egluro i ba raddau, os o gwbl, y gall aelod barhau i gymryd rhan yn y busnes sy’n gysylltiedig â’r budd. Mae’r Cod hefyd yn cynnwys canllawiau ar gofrestru rhoddion a lletygarwch.
Fel arfer bydd Cod awdurdod i’w weld ar ei wefan. Neu, bydd copïau ar gael gan Swyddog Monitro neu Glerc pob awdurdod.
Os ydych yn credu bod aelod wedi, neu’n amau ei fod wedi torri Cod Ymddygiad ei awdurdod, efallai y gallwn ymchwilio i’ch cwyn.
Fel arfer gallwn ymchwilio i’ch cwyn:
Mae hyn yn golygu ystyried sawl ffactor sy’n ymwneud â budd y cyhoedd megis: a yw’r aelod wedi mynd ati’n fwriadol i geisio cael buddiant personol iddo’i hun neu i rywun arall ar draul y cyhoedd neu wedi camddefnyddio sefyllfa o ymddiriedaeth, a oes angen ymchwilio er mwyn sicrhau y bydd y cyhoedd yn dal yn gallu ymddiried mewn aelodau etholedig neu a yw ymchwiliad yn ymateb cymesur o dan yr amgylchiadau. Mae gennym ddisgresiwn wrth benderfynu a ydym am ymchwilio i gŵn o’r fath neu beidio.
Ni allwn wneud y canlynol:
Os byddwn yn canfod bod modd cyfiawnhau’r gŵyn, ac yn ystyried y byddai’n fuddiol cyfeirio’r gŵyn er budd y cyhoedd, gall ei chyfeirio naill ai at Bwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, neu at dribiwnlys a gaiff ei gynnull gan Banel Dyfarnu Cymru i wneud penderfyniad ar y materion. Os canfyddir bod y cod wedi’i dorri, y pwyllgor safonau neu Banel Dyfarnu Cymru fydd yn penderfynu ac yn pennu cosb briodol.
Wrth gyflwyno cwyn i ni fod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, mae’n hanfodol eich bod yn cynnwys cymaint o dystiolaeth â phosibl i ategu unrhyw gŵyn. Rhaid i bob cwyn gael ei chyflwyno’n ysgrifenedig. Mae copi o ffurflen gwyno am God Ymddygiad ar gael ar ein gwefan: www.ombwdsmon.cymru
Wrth gyflwyno cwyn, rhaid i chi ddeall y bydd eich manylion yn cael eu datgelu i’r aelod rydych chi’n cwyno amdano neu amdani. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn cael ei datgelu i Swyddog Monitro a Chlerc (pan fo’n berthnasol) y Cyngor priodol fel arfer. Rhaid i chi fod yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar i Bwyllgor Safonau yr awdurdod i gefnogi’ch cwyn, neu i dribiwnlys a allai gael ei benodi i ystyried unrhyw adroddiad a gyhoeddir gennym os byddwn yn penderfynu ymchwilio i’ch cwyn.
Os byddwn yn penderfynu ymchwilio i gŵyn, byddwn fel arfer yn cael tystiolaeth ddogfennol berthnasol bellach, tystiolaeth tystion a thystiolaeth gan yr aelod dan sylw. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei hystyried yng nghyd-destun y Cod wrth benderfynu a yw’r Cod wedi’i dorri.
Os yw eich cwyn yn ymwneud ag unrhyw beth heblaw ymddygiad Cynghorydd, dylech gyfeirio at drefn gwyno’r Cyngor.
Rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd; mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru