Isod mae gennym restr o gyrff cynghori ac eirioli a allai eich helpu wrth wneud eich cwyn. Pa un a ydych yn chwilio am gyngor am ddim neu os hoffech i eiriolwr wneud cwyn ar eich rhan, dylai ein rhestr gynnwys corff sy’n addas ar gyfer eich anghenion.

Hoffech chi i ni newid y wybodaeth isod neu ychwanegu unrhyw fanylion newydd? Cysylltwch â ni ar cyfathrebu@ombwdsmon.cymru. Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant i sefydliadau ar ein rôl a’n proses. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni ar yr e-bost uchod.