Mae un o’n swyddogion wedi trefnu i gymryd cwyn gennych chi dros y ffôn.
Yn ystod yr apwyntiad ffôn, byddwn ni yn cymryd gwybodaeth berthnasol oddi wrthych chi.
Bydd y swyddog yn llenwi’r ffurflen gwyno yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch chi yn ystod yr apwyntiad: Ffurflen gwyno Defnyddwyr Gwasanaeth
Os yw’n well gennych chi lenwi’r ffurflen eich hun yn lle, mae croeso i chi wneud hynny a’i hanfon atom ni naill ai drwy e-bost
neu trwy’r post at:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd Yr Hen Gae Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 SLJ
Ni fydd y swyddog sy’n eich ffonio yn gallu rhoi penderfyniad i chi am eich cwyn bryd hynny, er y gallai eich cynghori os yw’n annhebygol y gallwn ni ymchwilio i’ch cwyn. Bydd angen i ni asesu eich cwyn yn gyntaf.
Efallai y bydd swyddog arall yn gwneud hyn (nid yr un a gymerodd eich cwyn).
Gallwch chi ddisgwyl i’r apwyntiad ffôn gymryd tua 30 munud. Fel arfer, mae hyn yn ddigon o amser i ni gael yr holl fanylion perthnasol.
Bydd y swyddog yn cofnodi crynodeb o’r wybodaeth a roddwch chi iddo.
Byddwn ni yn recordio’r alwad. Efallai y byddwn ni yn anfon copi o’r ffurflen y mae ein swyddog yn ei llenwi ar eich cyfer chi yn ystod yr alwad.
Yn ystod yr apwyntiad ffôn, bydd angen i chi ddweud wrthym ni:
Efallai y byddwn ni’n gofyn i chi anfon unrhyw ddogfennau perthnasol atom ni.
Os ydych chi’n cwyno ar ran rhywun arall, bydd angen i ni drafod a ydyn nhw wedi rhoi ‘awdurdod’ i chi (caniatáu i chi) wneud hynny.
Os na all y person hwnnw roi’r awdurdod i chi neu os ydyn nhw wedi marw, byddwn ni’n gwirio ai chi yw’r person priodol i wneud y gŵyn.
Unwaith y byddwn ni wedi cymryd eich cwyn, byddwn ni’n ei phrosesu yn yr un ffordd â chwyn ysgrifenedig.
Rydym ni yn cynnal y rhan fwyaf o’n busnes yn ysgrifenedig. Ar ôl i ni gymryd eich cwyn dros y ffôn, byddwn ni fel arfer yn cyfathrebu â chi yn ysgrifenedig oni bai bod rheswm da i ni wneud fel arall. Yn ôl y gyfraith, mae rhaid i’n penderfyniad ar eich cwyn fod yn ysgrifenedig.
Gall hyn fod, er enghraifft, oherwydd bod gennych chi nam sy’n golygu bod cyfathrebu yn ysgrifenedig yn anodd.
Ar ôl yr alwad, byddwn ni’n edrych yn agosach ar eich cwyn i weld a allwn ni ei datrys yn gynnar neu a oes angen i ni ymchwilio.
Byddwn yn asesu os:
Os na allwn ni ymchwilio i’ch cwyn, byddwn ni’n dweud wrthych chi pam.
Yn ystod yr apwyntiad ffôn, byddwn ni’n trafod â chi a ydych chi’n fodlon i ni:
Gwelwch ein Hysbysiad Preifatrwydd sy’n cynnwys gwybodaeth am eich data.