Mae gennym bwerau i ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ar ein liwt ein hunain’ lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant gwasanaeth systematig neu gamweinyddu.

Pan fyddwn yn fodlon bod y meini prawf ar gyfer ymchwilio wedi eu bodloni, gallwn gynnal dau fath o ymchwiliad ar ei liwt ei hun:

• Ymchwiliad Estynedig – Ymestyn mater sydd eisoes yn destun ymchwiliad

• Ymchwiliad Ehangach – Ymchwiliad annibynnol nad yw’n ymwneud â chwyn a wneir gan unigolyn

Gwnewch awgrym ar gyfer Ymchwiliad ar ei Liwt ei Hun Ehangach yma.