Ein gweledigaeth
Diwylliant gwasanaeth cyhoeddus sy’n rhoi gwerth ar gwynion ac yn dysgu yn eu sgil i wella darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus.
Ein cenhadaeth
Trwy ymchwilio i gwynion, rydym yn anelu at osod pethau’n iawn ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a chyfrannu at wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a safonau ym mywyd cyhoeddus.
Ein gwerthoedd
Yn ein syfydliad, rydym yn gwerthfawrogi
- Cyflawni – gwneud ein gorau glas
- Undod – parchu ein gilydd a gweithio ar y cyd er mwyn i’r sefydliad lwyddo
- Meddwl yn gadarnhaol – dangos brwdfrydedd a balchder o ran pwy ydyn ni a’r hyn rydyn ni’n ei wneud
- Cefnogaeth – bod yn gefn i’n gilydd a gwerthfawrogi ein hamrywiaeth
- Perchnogaeth – derbyn cyfrifoldeb am bopeth a wnawn
- Parodrwydd – bod yn awyddus, yn hyblyg ac yn rhagweithiol
Ein dibenion
- I ymchwilio i gwynion am gyrff cyhoeddus.
- I unioni pethau. Lle gallwn, byddwn yn ceisio adfer pobl i’r sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe na baent wedi dioddef anghyfiawnder, ac yn gweithio i sicrhau’r canlyniad gorau posibl pan fo anghyfiawnder wedi bod.
- I adnabod a rhannu arferion da er mwyn i gyrff cyhoeddus ddysgu’r gwersi a ddaeth i’r amlwg yn sgil ein hymchwiliadau ac i unioni unrhyw wendidau a ganfuwyd mewn systemau er mwyn parhau i wella safonau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
- I helpu pobl i anfon eu cwyn at y darparwr gwasanaethau cyhoeddus cywir neu at y gwasanaeth trin cwynion priodol.
- I ymchwilio i gwynion yn erbyn aelodau o awdurdodau lleol sydd wedi torri’r cod ymddygiad.
- I feithrin hyder mewn llywodraeth leol yng Nghymru drwy hyrwyddo safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus.
Nodau strategol
Nod Strategol 1: Cyflawni Cyfiawnder: Gwasanaeth cwynion sy’n deg, annibynnol, cynhwysol ac ymatebol.
Nod Strategol 2: Hyrwyddo Dysgu, Gweithio i Wella Gwasanaethau Cyhoeddus: Hyrwyddo dysgu o gwynion ac ysgogi gwelliannau ar raddfa ehangach.
Nod Strategol 3: Defnyddio Adnoddau yn Ddoeth a Diogelu’r Sefydliad Rhag y Dyfodol: Adnabod a mabwysiadu arfer gorau. Sicrhau gwerth am arian a gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Cefnogi staff a sicrhau llywodraeth dda sy’n ein cefnogi a herio.