Advocate yw elusen pro bono’r Bar, a ariennir gan y bargyfreithwyr ymroddedig sydd hefyd yn gwirfoddoli eu hamser a’u sgiliau.

Mae Advocate yn ysbrydoli ac yn hwyluso’r gwaith pro bono gan fargyfreithwyr, ac maent yn galluogi pobl sydd angen cymorth i gysylltu â’r rheini sy’n gallu ei ddarparu. Rydyn ni’n paru pobl sydd angen cyngor a chynrychiolaeth, gyda bargyfreithwyr sy’n cynnig eu cymorth am ddim, gan ddarparu achubiaeth i bobl sy’n cael trafferth cael gafael ar gyfiawnder, ym mhob maes o’r gyfraith, ac ar draws pob lefel, gan gynnwys tribiwnlysoedd a’r Goruchaf Lys.

Rydyn ni’n gwasanaethu pob cwr o Gymru a Lloegr. Dim ond cynnig cyngor, drafftio a chynrychiolaeth i ymgyfreithwyr yn bersonol y gall ein Bargyfreithwyr gwirfoddol eu gwneud. Ni allwn helpu os oes angen cymorth ar yr ymgeisydd i baratoi ei achos a’i waith papur ar gyfer y llys/tribiwnlys, cymorth gweinyddol, ac ysgrifennu llythyrau.

Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwn, dim ond os yw’r ceisiadau’n bodloni’r canlynol y byddwn ni’n eu prosesu:
- Nid yw’r ymgeisydd yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol
- Ni all yr ymgeisydd dalu’n breifat
- Bod o leiaf tair wythnos o rybudd cyn dyddiad neu ddyddiad cau unrhyw wrandawiad (ac eithrio colli rhyddid (carchar neu allgludo), digartrefedd, lles plant a chael bargyfreithiwr yn ei le)
- Bod y darn o waith yn rhywbeth y gall y bargyfreithiwr ei wneud

Advocate, 2il Lawr Lincoln House, 296-302 High Holborn, Llundain, WC1V 7JH