Rydyn ni’n cynrychioli pobl awtistig yn y mannau lle mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio, penderfyniadau’n cael eu gwneud a chymunedau cyfan yn cael eu heffeithio. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys y GIG, Heddlu Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau lleol ym Manceinion a Swydd Derby.

Rydyn ni hefyd yn addysgu gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau, i sicrhau bod anghenion a dymuniadau pobl awtistig yn cael eu hystyried, fel mater o drefn.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni ddechrau cynnig Cymorth gan Gymheiriaid (ar-lein mewn grwpiau bach) ac oherwydd ei lwyddiant, rydyn ni am gynnal rhagor o sesiynau. Rydyn ni hefyd yn darparu hyfforddiant ac ymgynghoriaeth pwrpasol.

Swyddfa 4
Tŷ Tyledesley
48 Ffordd Clarence
Craig Y Don
Llandudno
LL30 1TW