Gair gan yr Ombwdsmon

Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref cynnes a chroesawgar. Eto’n rhy aml, mae tenantiaid mewn tai cymdeithasol yn wynebu problemau gyda diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, neu ymddygiad gwrthgymdeithasol – problemau sy’n gallu gwaethygu pan na fydd landlordiaid yn gweithredu’n brydlon neu’n cyfathrebu’n glir. Yn lle hynny, mae’r hyn ddylai fod yn hafan ddiogel yn troi’n ffynhonnell o straen a niwed parhaus.

Yn y rhifyn arbennig hwn o’r cylchlythyr, rydyn ni’n tynnu sylw at y cwynion tai rydyn ni wedi ymyrryd ynddynt – o waith atgyweirio brys a lleithder a llwydni i fethiannau wrth ymdrin â chwynion. Mae’r achosion rydyn ni’n eu rhannu nid yn unig yn dangos yr effaith ar denantiaid unigol, ond hefyd y dysgu ehangach sydd ei angen ar draws y sector.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni hefyd wedi bod yn ymgysylltu â thenantiaid a darparwyr drwy ein hymgynghoriad ein hunain, ac roeddem yn falch o gwrdd â nifer ohonynt yng Nghynhadledd TPAS Cymru ym mis Tachwedd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r gwaith hwn i siapio ein gwaith yn y dyfodol ac i ysgogi gwelliannau ym maes tai cymdeithasol.

Cwynion newydd

Mae mwy o denantiaid yn cysylltu â ni gyda phryderon am dai. Mae’r problemau hyn yn effeithio’n anghymesur ar denantiaid agored i niwed ac yn parhau i fod yn sbardun sylweddol o ran cwynion.

Hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, rydyn ni wedi derbyn 2,939 o gwynion newydd ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus, gyda 473 ohonynt yn ymwneud â thai. Mae cwynion am dai yn gyfystyr â 16% o’n llwyth achosion newydd cyffredinol, gostyngiad o 19% yn 2024-25. Er gwaethaf y gostyngiad hwn, tai yw’r pwnc sy’n derbyn yr ail nifer fwyaf o gwynion.

Mae bron i hanner (49%) y cwynion newydd am dai yn ymwneud â lleithder a llwydni neu atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw. Roedd 18% arall yn ymwneud ag anghydfodau rhwng cymdogion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cwynion sydd wedi’u datrys

Hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, rydyn ni wedi datrys 2,763 o gwynion am wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys 537 o gwynion am dai.

Lle byddwn yn canfod bod sefydliad wedi gwneud camgymeriad, rydyn ni’n ymyrryd i sicrhau ei fod yn cywiro pethau. Gall hyn ddigwydd heb ymchwiliad llawn drwy Ddatrysiad Cynnar, neu yn dilyn ymchwiliad drwy gadarnhau cwyn neu awgrymu setliad rhwng y corff a’r sawl sy’n cwyno.

O’r 537 o gwynion am dai a gafodd eu datrys, cafodd 73 eu cadarnhau, yn bennaf drwy Ddatrysiad Cynnar. O’r rhain, roedd 50 yn ymwneud â lleithder a llwydni neu atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw.

Y gyfradd ymyrraeth gyffredinol ar gyfer cwynion am dai oedd 13%, sydd ychydig yn is na’r gyfradd ymyrryd ar gyfer cwynion am wasanaethau cyhoeddus yn ystod yr un cyfnod. Serch hynny, cyfraddau ymyrraeth cwynion am leithder a llwydni ac atgyweiriadau oedd 33% a 49% y drefn honno, sy’n dangos bod y problemau hyn yn fwy tebygol o fod angen gweithredu arnyn nhw.

Roedd gan gwynion am anghydfodau rhwng cymdogion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyfradd ymyrryd o 13%. Er bod y problemau hyn yn gyfystyr â chyfran sylweddol o’r cwynion am dai, cânt eu cadarnhau yn llawer llai aml.

Ar draws yr holl gwynion am dai a gafodd eu cadarnhau, roedd 41% o’n hargymhellion yn cynnwys iawndal ariannol. Roedd 92% o argymhellion yn cynnwys camau gweithredu gan y sefydliad, yn fwyaf cyffredin i fynd i’r afael â gwaith atgyweirio heb ei gwblhau. Mae hyn yn tanlinellu gwerth datrys achosion yn gynnar, gan alluogi gwelliannau ymarferol a chanlyniadau gwell heb yr angen am ymchwiliad llawn.

Gall problemau lleithder a llwydni gael effaith ddinistriol os na chânt eu datrys yn brydlon ac yn effeithiol.

Yng Nghymru, mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid o ran cyflwr y cartrefi maen nhw’n eu gosod. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (“SATC”) 2023 hefyd yn nodi’r safonau disgwyliedig ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, y mae landlordiaid yn cael eu mesur yn eu herbyn. Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi diweddariad i’r SATC, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2026, sy’n nodi sut dylai landlordiaid tai cymdeithasol ymchwilio i beryglon sylweddol a’u cywiro, gan gynnwys lleithder a llwydni.

Canfu arolwg ymhlith tenantiaid a wnaed gan TPAS Cymru[1] mewn ymateb i ymgynghoriad SATC ar y newidiadau, fod tenantiaid yn dweud bod peryglon yn ffynhonnell ddyddiol o bryder pan nad oeddent yn cael eu datrys. Yn aml, roedd cyfathrebu gwael yn gwneud y broblem yn waeth, gyda lleithder a llwydni nid yn unig yn cael eu hystyried fel risgiau iechyd ond fel arwydd nad oedd lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed. Tynnwyd sylw hefyd at yr effaith ar denantiaid agored i niwed, oherwydd gallai problem fach i bob pwrpas droi’n rhwystr sylweddol o ran diogelwch ac annibyniaeth.

Tuag at ddiwedd y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi 4 adroddiad budd y cyhoedd ar achosion yn ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni. Cyhoeddir adroddiadau budd y cyhoedd lle mae gan broblemau berthnasedd ehangach y tu hwnt i’r achos unigol a lle gall sefydliadau eraill ddysgu o’r hyn aeth o’i le. Darllenwch fwy o adroddiadau budd y cyhoedd ar ein gwefan, a gweler crynodebau o’r achosion isod.

Cyngor Caerdydd – Cyfeirnod yr achos 202404828

Cwynodd Ms C am gyflwr yr eiddo roedd hi’n ei rentu wrth Gyngor Caerdydd. Fe wnaethon ni ymchwilio a oedd y Cyngor wedi methu â gweithredu ac ymateb yn briodol ac yn brydlon i adroddiadau am ddŵr yn gollwng a lleithder a llwydni sylweddol yn yr eiddo. Ystyriodd ein hymchwiliad hefyd, ar ôl i’r eiddo gael ei nodi fel un nad oedd yn addas i bobl fyw ynddo ym mis Gorffennaf 2024, a oedd y Cyngor wedi cynnal y gwaith atgyweirio’n brydlon, ac wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gynnig llety amgen ar gyfer teulu Ms C.

Nododd ein hymchwiliad fethiannau difrifol yn y gwasanaeth a gafodd effaith ddinistriol ar Ms C a’i theulu. Collodd y Cyngor nifer o gyfleoedd dros gyfnod o bron i 4 blynedd i ymchwilio’n iawn ac i ddatrys achosion y dŵr yn gollwng a’r lleithder a’r llwydni. Erbyn Mawrth 2024 roedd yr eiddo wedi mynd i gyflwr ofnadwy. Roedd darnau helaeth o lwydni du ar draws yr eiddo ac roedd llawer iawn o ddŵr yn gollwng drwy dwll mawr yn nenfwd y gegin ac yn rhaeadru dros ffitiadau trydanol byw ar arwynebau ac unedau.

Fe wnaethon ni ganfod bod y lleithder a’r llwydni yn peri peryglon sylweddol i iechyd Ms C a’i theulu, yr oedd rhai ohonynt yn dioddef o asthma. Fe wnaeth hefyd ddifrodi neu ddinistrio llawer o eiddo’r teulu. Mae’n ymddangos bod yr anobaith o fyw mewn amodau mor wael dros gyfnod hir o amser wedi cyfrannu at ddadfeiliad araf yr uned deuluol – i’r graddau bod holl aelodau’r teulu wedi symud allan.

Treuliodd Ms C a 2 o’i merched sawl mis yn byw mewn amodau anaddas gyda’i mam oedrannus. Achosodd y methiant i ystyried yn iawn angen y teulu am lety arall fwy o straen a dryswch iddynt ac roedd yn golygu y bu’n rhaid iddynt ddioddef sawl mis arall heb gartref a oedd yn addas iddynt fyw ynddo.

O ganlyniad i’r methiannau hyn, fe wnaethon ni argymell bod Cyngor Caerdydd yn ymddiheuro i Ms C ac yn rhoi £3,000 iddi fel iawndal ariannol. Dylai’r Cyngor hefyd atgoffa staff yn yr Uned Ymateb i Atgyweiriadau i drin yr holl denantiaid â pharch a thosturi, yn enwedig o ran gwaith atgyweirio cymhleth a phroblemau gyda lleithder a llwydni.

Gofynnwyd i’r Cyngor hefyd ddarparu tystiolaeth o ganlyniadau adolygiadau a chynlluniau gweithredu, gan gynnwys ymatebion i’r adroddiad thematig ar ddiffyg atgyweirio a lleithder, ac i nodi unrhyw denantiaid eraill sydd wedi’u heffeithio gan broblemau systemig ac i gynnig iawndal lle bo angen. I gloi, dylai’r Cyngor gynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o ran ei bolisïau atgyweirio a lleithder a llwydni.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Cyngor Sir y Fflint – Cyfeirnod yr achos 202401983 

Cwynodd Miss Y am y ffordd roedd ei landlord, Cyngor Sir y Fflint, wedi ymateb i adroddiadau o leithder a llwydni yn ei chartref, ac a oedd y Cyngor wedi cymryd camau priodol i gynnig llety amgen.

Fe wnaethon ni ganfod bod y Cyngor wedi methu â nodi bod Miss Y wedi gwneud nifer o geisiadau am waith atgyweirio ar yr un mater. Cafodd ceisiadau atgyweirio eu trin ar wahân. Ymwelodd swyddogion â chartref Miss Y sawl gwaith i fynd i’r afael â phroblemau newydd, tra bod hen geisiadau atgyweirio yn parhau heb eu datrys. O ganlyniad, collwyd nifer o gyfleoedd i ganfod lleithder a llwydni ac i gynnal gwaith i fynd i’r afael â hyn.

Ni weithredodd y Cyngor mewn ffordd brydlon unwaith y daeth maint y gwaith a oedd ei angen ar gartref Miss Y i’r amlwg. Gadawyd Miss Y a’i phlant i fyw mewn amodau annerbyniol am 5 mis ar ôl i’r Cyngor ddod yn ymwybodol o’r lleithder yn ei chartref.

Roedden ni’n poeni y gallai’r methiannau a nodwyd yn yr achos hwn fod yn systemig. Mae’r methiannau a nodwyd yn yr achos hwn, yn enwedig mewn perthynas ag adnabod ac ymateb i geisiadau cyson o waith atgyweirio, yn rhai y gall sefydliadau eraill ddysgu ohonynt. O ganlyniad, fe wnaethon ni argymell bod y Cyngor yn ymddiheuro i Miss Y ac yn cynnig iawndal ariannol iddi. Dylai’r Cyngor hefyd sicrhau bod swyddogion Tai a Chymunedau yn cwblhau gwaith papur yn gywir ac yn cysylltu â Miss Y i gadarnhau unrhyw waith sydd heb ei wneud, gan gynnwys amserlen glir ar gyfer cwblhau’r gwaith. Yn ogystal, dylai’r Cyngor ddatblygu prosesau i nodi, cofnodi ac uwchgyfeirio ceisiadau am waith atgyweirio cyson.

Canolbwyntiodd argymhellion pellach ar wella gweithdrefnau mewnol. Roedd y rhain yn cynnwys creu canllawiau ar gyfer neilltuo Swyddogion Cyswllt â Thenantiaid, datblygu polisi adleoli mwy penodol, ac adolygu gweithdrefnau ar gyfer cynnal a chofnodi arolygiadau cyn gosod eiddo.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Trivallis – Cyfeirnod yr achos 202402960 

Cwynodd Mr B am y ffordd roedd cymdeithas dai Trivallis wedi delio ag adroddiadau o waith atgyweirio yn ei gartref. Fe wnaethon ni ymchwilio i weld a oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni a bwyler oedd wedi torri.

Canfuom nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni yng nghartref Mr B. Pan wnaeth Mr B roi gwybod i’r Gymdeithas am y problemau, ni chawsant eu trin yn unol â’r polisïau a’r canllawiau perthnasol. O ganlyniad, roedd Mr B wedi byw mewn cartref gydag atgyweiriadau heb eu cwblhau ers bron i 7 mlynedd.

Ni wnaeth y Gymdeithas ymateb yn briodol i adroddiadau am fwyler wedi torri yng nghartref Mr B ac ni ddilynodd ei bolisi atgyweirio. Yn ystod y cyfnod yn aros am atgyweirio’r bwyler, nid oedd Mr B yn gallu gwresogi ei gartref i lefel gyfforddus. Cynhaliwyd gwaith atgyweirio yn y pen draw ar ôl i wraig Mr B gwyno wrth y Gymdeithas.

Unwaith eto, roeddem yn bryderus y gallai’r methiannau hyn fod yn systemig. Ni roddodd y Gymdeithas esboniad pam, er gwaetha’r ffaith bod Mr B wedi gofyn droeon am atgyweiriadau, na chafodd problemau eu datrys yn gynt. Mae’r methiannau a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn hefyd yn arwyddocaol. Ni wnaeth gweithwyr y Gymdeithas ymweld â chartref Mr B i gynnal archwiliad o’i do; defnyddiwyd ffotograffau o ymweliad blaenorol i gefnogi’r honiad anghywir eu bod wedi gwneud hynny. Methodd y Gymdeithas hefyd â darparu cofnodion y gofynnwyd amdanynt fel rhan o’r ymchwiliad hwn.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Trivallis – Cyfeirnod yr achos 202405250 

Cwynodd Mrs C ynghylch a oedd Trivallis wedi ymateb yn briodol i adroddiadau o leithder a llwydni a wnaed ganddi rhwng Tachwedd 2023 a’r presennol.

Canfu ein hymchwiliad nad oedd y Gymdeithas wastad yn ymateb yn briodol i adroddiadau o leithder a llwydni. Nid oedd adroddiadau am broblemau yng nghartref Mrs C wastad yn cael eu gweithredu’n brydlon nac yn unol â pholisïau perthnasol.

Yn ystod ein hymchwiliad, roedd arolygon wedi dangos lleithedd yn yr un ardal yng nghartref Mrs C, ond nid oedd y Gymdeithas wedi sefydlu’r achos yn bendant eto. Nid oedd cyfathrebu’r Gymdeithas â Mrs C wastad yn addas ac ni welsom unrhyw dystiolaeth bod y Gymdeithas wedi ystyried anghenion y plant anabl a oedd yn byw yng nghartref Mrs C wrth ymateb i adroddiadau o leithder a llwydni. Unwaith eto, roeddem yn poeni y gallai’r methiannau hyn fod yn systemig, gyda chyfleoedd wedi’u colli i adnabod y problemau yng nghartref Mrs C.

Ar gyfer yr achos hwn ac achos 202402960 uchod, gwnaethom nifer o argymhellion tebyg. Gofynnwyd i’r Gymdeithas ymddiheuro i’r achwynwyr a darparu iawndal ariannol, ac i sicrhau bod yr holl staff perthnasol yn derbyn hyfforddiant i nodi ac ymateb yn briodol i gwsmeriaid agored i niwed, gan gynnwys hyfforddiant sy’n seiliedig ar senarios i ddefnyddio gwersi o’r achosion hyn.

Fe wnaethom hefyd argymell datblygu a gweithredu gweithdrefn lleithder a llwydni clir, gan gynnwys archwilio a mynd i’r afael ag unrhyw leithder yng nghartref Mrs C, a sefydlu prosesau i nodi, cofnodi ac uwchgyfeirio ceisiadau am waith atgyweirio cyson, yn ogystal â dadansoddi gwybodaeth o synwyryddion lleithder a llwydni yn yr eiddo. Yn ogystal, cynghorwyd y Gymdeithas i adolygu eu prosesau rheoli cofnodion er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’n hegwyddorion “Mae Rheoli Cofnodion Da yn Bwysig”, ac i rannu’r adroddiadau hyn gyda Phwyllgor Sicrwydd y Gymdeithas.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Mae’r achosion uchod yn dangos yr effaith y gall problemau tai sydd heb eu datrys ei chael ar denantiaid, gan bwysleisio pwysigrwydd gweithredu’n brydlon. Maent hefyd yn tynnu sylw at themâu sy’n codi dro ar ôl tro ac sy’n cynnig cyfleoedd amlwg ar gyfer gwelliannau ar draws y sector tai:

1. Gweithredu mewn ffordd brydlon

Mae hyn yn hollbwysig pan fydd tenantiaid yn rhoi gwybod am leithder, llwydni neu gais am waith atgyweirio.  Mae gweithredu’n brydlon nid yn unig yn atal problemau rhag troi’n fwy cymhleth neu’n fwy costus i’w datrys, ond mae hefyd yn helpu i gynnal ffydd pobl bod pryderon yn cael eu cymryd o ddifri.

Os nad yw’n bosib gweithredu’n brydlon am reswm dilys, dylai’r cyfathrebu fod yn glir a chynnwys dyddiad arfaethedig ar gyfer archwiliad neu atgyweiriad. Mae cyfathrebu cynnar a thryloyw yn helpu i reoli disgwyliadau ac yn lleihau gorbryder, yn enwedig ar gyfer tenantiaid mewn sefyllfaoedd agored i niwed.

2. Trin ceisiadau fel un broblem, nid ar ei phen ei hun

Fel y gwelwyd yn achos 202401983, gall trin ceisiadau am waith atgyweirio ar eu pen eu hunain adael problemau sylfaenol heb eu datrys. Gall methu â chysylltu adroddiadau cysylltiedig olygu colli cyfleoedd i nodi problemau ehangach, fel llwydni helaeth neu ddŵr sy’n gollwng yn gyson ac yn effeithio ar sawl rhan o’r eiddo.

Er nad yw problemau wastad yn gysylltiedig â’i gilydd, mae gofyn a allent fod yn gysylltiedig yn helpu i sicrhau bod achosion sylfaenol yn cael eu nodi a’u datrys, gan leihau’r risg y bydd diffyg atgyweirio yn gwaethygu dros amser.

3. Dilyn polisïau a chanllawiau perthnasol wrth ddelio â cheisiadau

Fel y dangoswyd yn nau achos Trivallis, mae dilyn polisïau a chanllawiau perthnasol yn hanfodol i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu trin yn gyson a’u datrys yn briodol.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn Cyflwr a Diffyg Atgyweirio Tai Cymdeithasol: Adborth i Landlordiaid Cymdeithasol yn nodi y dylai landlordiaid cymdeithasol “sicrhau bod mesurau ar waith i nodi a mynd i’r afael yn benodol â phroblemau lleithder a llwydni y rhoddir gwybod amdanynt”, gan gynnwys cynnal archwiliadau yn ddiofyn, diagnosis cywir, unioni diffygion yn brydlon a chymorth priodol i denantiaid.

Os na chaiff polisïau a chanllawiau eu dilyn, mae’r risg o gamgymeriadau’n cynyddu ac mae’n anoddach cadw golwg ar gynnydd ac atebion. Felly, mae cadw at ganllawiau yn cefnogi ansawdd gwasanaethau ac atebolrwydd.

Nid pob achos sy’n gofyn am ymchwiliad llawn i sicrhau canlyniadau ystyrlon. Mae nifer o gwynion yn cael eu datrys yn gynharach drwy Ddatrysiad Cynnar, lle mae sefydliadau’n derbyn bai ac yn cymryd camau prydlon i unioni’r mater. Yn aml, mae’r achosion hyn yn cynnwys problemau difrifol ac maen nhw’n dal i gynnig gwersi pwysig i’r sector eu dysgu. Mae’r enghreifftiau isod yn tynnu sylw at themâu cyffredin o achosion a gafodd eu datrys yn y ffordd hon. Gallwch chi bori neu chwilio drwy grynodebau o’n hachosion sydd wedi’u datrys ar ein gwefan.

Oedi wrth fynd i’r afael ag atgyweiriadau brys a pheryglon

Yn achosion 202408308 a 202408991202505478 a 202503132, profodd tenantiaid ofid sylweddol oherwydd yr oedi wrth fynd i’r afael ag atgyweiriadau brys.

Yn achos 202408308, methodd Cymdeithas Dai ag ymateb am sawl mis i bryderon cyson ynglŷn ag atgyweiriadau a oedd heb eu gwneud i eiddo tenant 90 oed, gydag archwiliad ond yn digwydd ar ôl i Aelod Seneddol ymyrryd.

Yn achos 202408991, dioddefodd Miss A ddiffyg atgyweirio sylweddol ers dechrau  2023, gan gynnwys llwydni du, y to yn gollwng, ffenestri heb eu diogelu, inswleiddio ar goll, asbestos a oedd angen ei ailosod, a cholli gwres a dŵr poeth dros gyfnod y Nadolig, ynghyd â thwll mawr yn y nenfwd. Lle roedd gwaith wedi’i wneud, roedd o ansawdd gwael ac achosodd ddifrod pellach i’r adeilad a’r eiddo.

Yn achos 202505478, cwynodd Miss A am gyllyll, hoelion, pwysau a gwastraff wedi’u claddu ym mhorfa ei gardd, a dywedodd fod hyn wedi achosi pla o lygod mawr ac wedi creu amgylchedd anniogel i’w phlant ifanc. Ni wnaeth y Gymdeithas fynd i’r afael â’r broblem yn iawn, a oedd yn golygu nad oedd y teulu’n gallu defnyddio’r ardd yn ddiogel.

Yn achos 202503132, cwynodd Ms A y cafwyd oedi gyda’r atgyweiriadau a’r gwelliannau y cytunwyd arnynt ar gyfer ei gardd, ei ffens derfyn a’i dreif. Er bod rhywfaint o waith wedi’i wneud, achosodd yr oedi a’r gwaith annigonol ar ôl ei gwblhau straen, gorbryder a rhwystredigaeth.

Mae’r achosion hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd dilyn polisïau atgyweirio a chwynion i archwilio eiddo’n brydlon, mynd i’r afael â pheryglon yn effeithiol, a sicrhau bod pryderon sy’n cael eu riportio’n gyson yn cael eu cofnodi a’u holrhain fel cwynion ffurfiol. Mae cyfathrebu clir a chamau amserol yn hanfodol i atal niwed ac i leihau gofid i denantiaid.

Diffyg diweddariadau neu ddiweddariadau annigonol ac eglurder ar y cynllun ar gyfer gwaith angenrheidiol

Yn achosion 202503782202503266202409225 a 202500849, profodd tenantiaid rwystredigaeth a gofid oherwydd cyfathrebu aneglur a diffyg diweddariadau ar atgyweiriadau a oedd ar y gweill.

Yn achos 202503782, cwynodd Ms A fod Trivallis wedi methu â datrys atgyweiriadau i’r ystafell ymolchi a oedd heb eu cwblhau, gan gynnwys toiled a oedd yn gollwng dŵr, lleithder a llwydni, a chawod nad oedd yn gweithio. Er bod y Gymdeithas wedi cadarnhau’r gŵyn ym mis Gorffennaf 2024, roedd y gwaith atgyweirio dal heb ei gwblhau ac ni ddarparwyd amserlen glir ar gyfer ailosod yr ystafell ymolchi. Achosodd y diffyg diweddariadau ystyrlon anghyfleustra a rhwystredigaeth barhaus.

Yn achos 202503266, mynegodd Mrs A bryderon am yr oedi gyda’r gwaith atgyweirio. Roeddem yn poeni bod yr atgyweiriadau dal heb eu gwneud a bod Mrs A heb dderbyn ymateb ysgrifenedig ffurfiol. Cytunodd y Gymdeithas i roi ymddiheuriad ysgrifenedig, gan gadarnhau’r camau y bydd yn eu cymryd i gwblhau’r gwaith angenrheidiol, ac ymateb yn unol â’i weithdrefn gwyno.

Yn achos 202409225, cwynodd cynrychiolydd ar ran tenant fod Adra wedi methu â thrwsio achos o ddŵr yn gollwng ers Mai 2023, gan arwain at leithder a llwydni. Er bod  Adra wedi ceisio mynd i’r afael â’r mater yn allanol, ni wnaeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r tenant nac ymateb i adroddiadau am leithder a llwydni y tu mewn i’r eiddo.

Yn achos 202500849, cwynodd Mr A fod Adra wedi methu â chwblhau atgyweiriadau y gwnaeth eu riportio dros fisoedd a blynyddoedd. Dywedodd ei fod wedi cael trafferth cael y wybodaeth ddiweddaraf ac nad oedd wedi derbyn ymateb ysgrifenedig i’w ail gŵyn. Dywedodd Mr A nad oedd rhai atgyweiriadau wedi cael eu cydnabod, a’i fod wedi colli ffydd y byddai’r holl atgyweiriadau’n cael eu cwblhau mewn ffordd brydlon. Dywedodd Mr A fod yr oedi yn effeithio ar ei iechyd corfforol a meddyliol.

Mae’r achosion hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu clir a rheolaidd ac ymatebion ffurfiol i gwynion, yn enwedig lle mae atgyweiriadau’n gymhleth neu’n para’n hir. Mae rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i denantiaid am waith sydd ar y gweill a’r amserlen ddisgwyliedig yn gallu atal rhwystredigaeth a lleihau’r tebygolrwydd o orfod uwchgyfeirio’r mater.

Methiannau yn y broses gwyno, gan gynnwys peidio â chofnodi cwynion yn gywir neu fethu â rhoi ymateb i gwynion

Yn achosion 202502986202501517 a 202501762, profodd tenantiaid ansicrwydd a rhwystredigaeth oherwydd nad oedd eu cwynion wedi’u cofnodi neu lle na ymatebwyd iddynt yn unol â gweithdrefn gwyno’r sefydliad.

Yn achos 202502986, cwynodd Mr X fod Adra wedi methu â thrwsio’r drafft a oedd yn dod o’i ffenestri. Cwynodd ym mis Ionawr 2025 ond ni dderbyniodd ymateb i’w gŵyn.

Yn achos 202501517, cwynodd Mrs X fod Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd wedi difrodi ei wal. Ymatebodd y Gymdeithas, ond nid oedd yn ymateb ffurfiol i’r gŵyn ac ni chafodd ei gwneud yn unol â’i gweithdrefn gwyno.

Yn achos 202501762, cwynodd Mr X am y cyflenwad gwresogi cymunedol a thaliadau ychwanegol yn dilyn gwaith gan Gyngor Sir Ddinbych. Rhoddodd y Cyngor ymateb Rhyddid Gwybodaeth ond ni wnaeth roi ymateb ffurfiol i’r gŵyn.

Mae’r achosion hyn yn dangos pwysigrwydd sicrhau bod cwynion yn cael eu cofnodi a’u hateb yn briodol, fel bod tenantiaid yn hyderus yr ymdrinnir â’u pryderon yn iawn.

Mae’r achosion sy’n cael sylw yn y cylchlythyr hwn yn dangos pa mor gyflym y gall problemau gyda thai waethygu pan nad ydynt yn cael eu datrys yn brydlon, eu cyfathrebu’n glir, na’u cofnodi’n addas. Maent hefyd yn dangos pam mae ein gwaith yn y maes hwn yn bwysig, nid yn unig i denantiaid unigol ond ar gyfer dysgu ehangach ar draws y sector tai cymdeithasol.

Ym mis Tachwedd, lansiwyd ymgynghoriad ar ymchwiliad ar ei Liwt ei Hun arfaethedig ynghylch a yw Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig  ac awdurdodau lleol yn ymateb yn briodol i adroddiadau a phryderon sy’n ymwneud â diffyg atgyweirio, gyda phwyslais ar leithder a llwydni, gan roi ystyriaeth i anghenion tenantiaid agored i niwed. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Rhagfyr ac fe wnaethom dderbyn ymatebion wrth denantiaid, darparwyr tai cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyngor, eiriolaeth a chymorth y trydydd sector. Cefnogodd y mwyafrif helaeth ymchwiliad i sut mae darparwyr yn ymdrin â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, a chwynion cysylltiedig.

Ar ôl ystyried yr holl ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad yn ofalus yn ystod y cam hwn, credwn fod ein meini prawf ar gyfer cynnal ymchwiliad ar ei Liwt ei Hun wedi’u bodloni.  Rydyn ni wedi penderfynu symud ymlaen i argymell dau ymchwiliad. Rydyn ni  wedi cyhoeddi dogfen sy’n rhoi manylion pellach o’n dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’n rhesymau dros benderfynu i fwrw ymlaen i argymell yr ymchwiliadau hyn. Rydyn ni wedi ysgrifennu at y ddau Landlord Cymdeithasol Cofrestredig rydyn ni’n bwriadu ymchwilio iddynt, er mwyn rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau, cyn penderfynu a ddylid cychwyn yr ymchwiliadau hyn. Byddwn yn parhau i adolygu a ddylem hefyd gynnig ymchwiliadau ar ei Liwt ei Hun i gyrff eraill.

Yn y cyfamser, byddwn hefyd yn parhau i ddefnyddio ein gwaith achos i nodi gwersi ac i annog gwelliannau ar draws y sector. Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan cyn gynted ag y bydd ar gael, ac rydyn ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod cwynion am dai yn cael eu cymryd o ddifri a’u datrys yn gyflym.