Cwynodd Miss A ar ran un o denantiaid Adra (“y Gymdeithas Tai”), nad oeddent wedi trwsio dŵr oedd yn gollwng yn yr eiddo ers mis Mai 2023. Dywedodd Miss A fod y dŵr yn gollwng wedi achosi lleithder a llwydni yn yr eiddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Tai wedi ymdrechu i ddatrys y broblem y tu allan i’r adeilad, ond nad oedd wedi diweddaru’r tenant. Roedd y Gymdeithas Tai wedi cynnig iawndal i’r tenant yn ddiweddar am y difrod i’w heiddo ac am nad oedd yn gallu defnyddio rhai ystafelloedd, ond nid oedd wedi ymateb i’r adroddiadau diweddar am leithder a llwydni, ac nad oedd wedi rhoi sylw i’r difrod a achoswyd y tu mewn i’r eiddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i gynnig ymddiheuro i’r tenant, cytuno ar gyfanswm yr iawndal a gwneud y taliad, cynnig contractwr i ailaddurno’r tu mewn lle’r oedd y difrod, cadarnhau manylion y gwaith trwsio, sicrhau’r tenant pe bai’r broblem yn parhau y byddai unrhyw ddifrod yn cael ei gywiro ar frys, trefnu darlleniad mesurydd lleithder yn yr eiddo a chwblhau unrhyw gamau sy’n deillio o hynny, i gyd o fewn 1 mis.