Dyddiad yr Adroddiad

14/05/2025

Achos yn Erbyn

Merthyr Valleys Homes

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202408308

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mrs A gwyno bod Cartrefi Cymoedd Merthyr (“y Gymdeithas Dai”) wedi methu ag ymateb i’w phryderon mynych dros gyfnod o sawl mis am atgyweiriadau a oedd yn aros i gael eu gwneud i eiddo ei mam 90 oed. Dywedodd na fu i’r Gymdeithas Dai ond archwilio’r eiddo ar ôl i’w Haelod Seneddol ymwneud â’r achos.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi dilyn ei pholisi atgyweirio o ran pa mor hir y cymerodd iddi archwilio’r eiddo a chyflawni’r gwaith atgyweirio. Penderfynodd hefyd nad oedd wedi dilyn ei pholisi cwynion oherwydd nid oedd wedi nodi bod pryderon mynych Mrs A, na’r ohebiaeth gan ei Haelod Seneddol, yn gŵyn ffurfiol. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai gytuno i fynd ati cyn pen mis i ymddiheuro i Mrs A am iddi orfod cysylltu â’r Ombwdsmon ac am beidio ag ymdrin â’i phryderon fel cwyn, ac i ddarparu ymateb Cam 2 i’r gŵyn, gan unioni unrhyw broblemau a bennwyd. Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud y pethau hyn.