Dyddiad yr Adroddiad

20/05/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202408991

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Miss A gwyno am broblemau o ran atgyweirio ei chartref a oedd wedi bod yn mynd rhagddynt ers yn gynnar yn 2023. Bu iddi gwyno bod yr eiddo yn llawn llwydni du, nad oedd y ffenestri’n cau’n iawn, bod dŵr yn gollwng drwy’r to, ac nad oedd unrhyw inswleiddio. Roedd angen ailosod asbestos hefyd. Nid oedd gan Miss A ddŵr poeth na gwres dros gyfnod y Nadolig, ac roedd twll mawr yn y nenfwd. Pan oedd gwaith, fel gosod deunydd lloriau, wedi’i wneud, roedd safon y gwaith yn wael ac roedd angen ei ail-wneud.

Er bod y Gymdeithas Dai wedi cyflawni rhywfaint o waith atgyweirio, canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi ac na chafodd y gwaith ei gwblhau. Pan oedd gwaith wedi’i wneud, achoswyd difrod pellach i gartref, dodrefn ac eiddo Miss A. Roedd problemau cyfathrebu rhwng Miss A a’r Gymdeithas Dai. Roedd hyn wedi peri gofid a rhwystredigaeth i Miss A ac roedd wedi effeithio’n sylweddol ar ei theulu. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y g?yn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Gymdeithas Dai i fynd ati cyn pen pedair wythnos i gwrdd â Miss A i archwilio’r eiddo ac i bennu rhestr o’r problemau sy’n weddill i’w datrys. Cytunodd hefyd i ddarparu iddi restr ac amserlen o’r gwaith y bwriedir ei wneud, ac i ymddiheuro iddi’n ysgrifenedig am yr oedi cyn cyflawni’r gwaith atgyweirio.