Cyflwyniad

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion ynghylch niwsans sŵn o adeiladau domestig neu fusnes yn ei ardal ac am gymryd mesurau gorfodi priodol lle mae’n cadarnhau bod niwsans yn cael ei achosi o dan y gyfraith. Mae’n rhaid i’r Cyngor weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn ei bolisïau a’i weithdrefnau ei hun.

Os yw’r sŵn yn dod o dŷ sy’n cael ei rentu gan Gymdeithas Dai neu gan y Cyngor, mae modd mynd at y landlord ynglŷn â’r niwsans sŵn gan ei denantiaid. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael mewn taflen ffeithiau arall dan yr enw “Ymddygiad Gwrthgymdeithasol”.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn ymchwilio i:

  • Gwynion am sut y deliodd y Cyngor â chwynion ynghylch niwsans sŵn a wnaed iddo;
  • Awnaeth y Cyngor unrhyw beth o’i le wrth ymchwilio i’ch cwyn ynghylch sŵn ac, os felly, a arweiniodd hyn at greu problemau ychwanegol ichi;
  • Fethiannau i ymchwilio i gŵyn ynghylch niwsans sŵn sy’n parhau a sefydlu a oedd yna broblem sŵn;
  • Oediadau afresymol yn ymchwilio i gŵyn ynghylch niwsans sŵn;
  • Fethiannau i gymryd camau gorfodi neu fesurau i ddatrys y broblem ar ôl i’r Cyngor gadarnhau bod problem niwsans sŵn statudol yn bodoli;
  • Y Cyngor yn methu egluro canlyniad yr ymchwiliad ichi;
  • Fethiannau i ystyried yr holl wybodaeth berthnasol a oedd ar gael neu ddod i’w benderfyniad ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu amherthnasol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • ymchwilio i gwynion ynghylch niwsans sŵn (dim ond y Cyngor sy’n gallu ymchwilio i’r rhain);
  • dod i benderfyniad ynghylch a ydyw’r sŵn yr ydych yn cwyno yn ei gylch yn niwsans o dan y gyfraith;
  • mynd yn groes i benderfyniad y Cyngor ynghylch a ydyw’r sŵn yn niwsans o dan y gyfraith ac ynghylch y camau gorfodi a gymrodd.

 

Materion i gadw mewn cof

Os ydych yn dioddef o niwsans sŵn, rhaid i chi roi gwybod i’r Cyngor cyn gynted â phosibl, gan roi manylion y sŵn a’r dyddiadau a’r amseroedd y digwyddodd. Ni all y Cyngor ymyrryd yn syth i atal y sŵn, mae angen iddo ymchwilio i sefydlu natur y broblem. Efallai y bydd yn gofyn i chi lenwi dyddiadur i gofnodi manylion y broblem fel rhan o’i ymchwiliad.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai y bydd gan y Cyngor fwy o wybodaeth am sut y mae’n delio â chwynion sŵn a/neu bolisi gorfodi ysgrifenedig y gallwch ei ddarllen, ar ei wefan. Am gyngor ar wneud cwynion ynghylch niwsans sŵn, dylech gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn uniongyrchol.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen