Mae’r daflen ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Mae gan Gynghorau amrediad eang o ddyletswyddau a phwerau i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned a rhaid iddynt weithio gyda chyrff eraill fel yr heddlu i geisio datrys problemau o’r fath. Mae rhai ymddygiadau yn cael eu hystyried yn droseddau a’r heddlu ddylai ddelio â nhw. Fel landlordiaid, mae gan Gynghorau a chymdeithasau tai ddyletswyddau penodol i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr eiddo a reolir ganddynt. Dim ond nhw sy’n gallu cyflawni rhai gweithredoedd penodol (e.e. achosion adfeddiannu os yw’r ymddygiad yn torri amodau’r cytundeb tenantiaeth). Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys gormod o sŵn, harasio, cam-drin geiriol, bygythiadau a fandaliaeth.
Gall edrych i weld a oes unrhyw beth o’i le gyda’r ffordd y deliodd y cyngor neu’r gymdeithas dai â chwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall hyn gynnwys:
Ni all:
Mae’n syniad da cadw cofnod o bryd y dechreuodd y niwsans, sut niwsans ydoedd a phryd ichi ddwyn y problemau hyn at sylw’r corff cyfrifol ynghyd ag unrhyw ohebiaeth a dderbynioch, gan gynnwys e-byst. Byddwn yn gofyn am y wybodaeth yma ac am eich hanes chi o ddigwyddiadau i benderfynu a ddylem ymchwilio i’ch cwyn neu beidio.
Mae nifer o gyrff sy’n rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus ar sut i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dyma rai o’r prif gyrff:
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol a di-duedd; ni all orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn y mae’n ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.
Mae enghreifftiau o achosion y mae’r Ombwdsmon wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalennau ‘Ein Canfyddiadau’ a ‘Coflyfr yr Ombwdsmon’.
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru