Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch niwsans sŵn. Dylid ei darllen gyda’r llyfryn sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol am ein gwasanaeth, ar gael yma.
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion ynghylch niwsans sŵn o adeiladau domestig neu fusnes yn ei ardal ac am gymryd mesurau gorfodi priodol lle mae’n cadarnhau bod niwsans statudol yn cael ei achosi. Fel arfer, gwneir hyn drwy Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor. Mae’n rhaid i’r Cyngor weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn ei bolisïau a’i weithdrefnau ei hun.
Os yw’r sŵn yn dod o dŷ sy’n cael ei rentu gan Gymdeithas Dai neu gan y Cyngor, mae modd mynd at y landlord ynglŷn â’r niwsans sŵn gan ei denantiaid. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael mewn taflen ffeithiau arall dan y teitl ”Ymddygiad Gwrthgymdeithasol”.
Gall yr Ombwdsmon ymchwilio i gwynion am sut y deliodd y Cyngor â chwynion ynghylch niwsans sŵn a wnaed iddo. Gallwn ystyried a wnaeth y Cyngor unrhyw beth o’i le wrth ymchwilio i’ch cwyn ynghylch sŵn ac, os felly, a arweiniodd hyn at greu problemau ychwanegol ichi. Gallwn edrych ar:
Ni fydd yr Ombwdsmon yn gallu:
Os ydych yn dioddef o niwsans sŵn, rhaid ichi roi gwybod i’r Cyngor cyn gynted â phosibl gan roi manylion y sŵn a’r dyddiadau a’r amseroedd y digwyddodd. Ni all y Cyngor ymyrryd yn syth i atal y sŵn, mae angen iddo ymchwilio i sefydlu natur y broblem. Efallai y bydd yn gofyn ichi lenwi dyddiadur i gofnodi manylion y broblem fel rhan o’i ymchwiliad.
Efallai y bydd gan y Cyngor fwy o wybodaeth am sut y mae’n delio â chwynion sŵn a / neu bolisi gorfodi ysgrifenedig y gallwch ei ddarllen, ar ei wefan. Am gyngor ar wneud cwynion ynghylch niwsans sŵn, dylech gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn uniongyrchol.
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol a di-duedd; ni all orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn y mae’n ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.
Mae enghreifftiau o achosion yr edrychodd yr Ombwdsmon arnynt ar ein gwefan. Ewch i www.ombwdsmon.cymru.
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.