Rydym yn hapus i dderbyn ac ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. Mae ein holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ar hyn o bryd rydym yn gweld cynnydd sylweddol mewn cwynion newydd sy’n gynamserol neu y tu allan i’n hawdurdodaeth.

Cofiwch, er mwyn i ni allu ystyried eich cwyn, mae angen i chi sicrhau:

1) eich bod wedi cwyno yn gyntaf i'r sefydliad rydych chi'n anhapus yn ei gylch
2) bod eich cwyn yn ymwneud â sefydliad y gallwn ymchwilio iddo (gweler mwy o fanylion ar ein tudalen ‘Sefydliadau y gallwch gwyno i ni amdanynt’)

Mae'n annhebygol iawn y byddwn yn gallu eich helpu oni bai eich bod yn cwblhau'r ddau gam hyn.

Cwynion am ddarparwyr gwasanaeth

Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth isod.  Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio i chi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor (0300 790 0203).

Clawr taflen 'sut i gwyno i ni am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru'

Lawrlwythwch daflen gyda gwybodaeth gyflym a hawdd am ein gwasanaeth cwynion am wasanaethau cyhoeddus [PDF, 328 KB]

 

Darllenwch mwy am yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus.

Darllenwch mwy am yr hyn y gallwn ymchwilio iddo o ran darparwyr gofal annibynnol.

Mae gennym daflenni ffeithiau manwl sy’n esbonio’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud feswl pwnc y gwŷn. Ewch i’n tudalen taflenni ffeithiau. 

Ni allwn edrych i mewn i bob corff yng Nghymru o fewn ein hawdurdod. Ewch i restr fanwl o sefydliadau y gallwch gwyno i ni amdanynt.

Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, ewch i’n ffurflen gwyno ar-lein.

Bydd y ffurflen yn eich helpu penderfynu ydy eich cwyn yr un rydym yn gallu edrych arni. Bydd hefyd yn rhoi cymorth i chi adnabod y corff yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn. Os yw eich cwyn yn ymwneud â darparwr gofal annibynnol, gofynnwn i chi roi ei fanylion.

Gallwch hefyd

  • argraffu ac anfon eich ffurflen gwyno atom ni:
    1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.

Lawrlwythwch ffurflen gwyno am ddarparwr gwasanaeth [PDF, 277KB]

Lawrlwythwch ffurflen cwyno am ddarparwr gwasanaeth mewn fformat Hawdd ei Ddarllen [PDF, 700 KB]

Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post.

  • cwyno i ni dros y ffôn: 0300 790 0203.

Ewch i wybodaeth pellach am ein proses ar gyfer derbyn cwynion dros y ffôn.

  • Os rydych yn dymuno gwyno ar ran rhywun arall, bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ein ffurflen ganiatâd.

Lawrlwythwch ein Ffurflen Ganiatâd [Word doc, 140 KB] 

Lawrlwythwch ein canllaw statudol ar sut i gyflwyno cwyn [PDF, 282 KB]

Cwynion am gynghorwyr lleol

Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth isod.  Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio i chi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor (0300 790 0203).

Clawr taflen 'sut i gwyno wrthym am ymddygiad cynghorwyr lleol' Lawrlwythwch daflen gyda gwybodaeth gyflym a hawdd am ein gwasanaeth cwynion am ymddygiad cynghorwyr lleol [PDF, 573 KB]

 

Darllenwch fwy am pryd a sut y gallwch gwyno i ni am ymddygiad cynghorwyr lleol.

Darllenwch fwy am yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am ymddygiad cynghorydd lleol.

Mae gennym daflenni ffeithiau manwl sy’n esbonio’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud feswl pwnc y gwŷn. Ewch i’n tudalen taflenni ffeithiau. 

Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, ewch i’n ffurflen gwyno ar-lein.

Gallwch hefyd

  • argraffu ac anfon eich ffurflen gwyno atom ni:
    1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.

Lawrlwythwch ffurflen gwyno am gynghorydd lleol [PDF, 277 KB]

Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post.

Gwybodaeth arall

Gallwn ni eich helpu chi i ddefnyddio ein gwasanaeth. Ewch i ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael. Gallwch hefyd ein ffonio i ofyn am gefnogaeth (0300 790 0203).

Yn unol â’n Safonau Gwasanaeth, ceisiwn cyfathrebu â chi’n effeithiol ar bob adeg. Ewch i ragor o wybodaeth am sut y byddwn yn cyfathrebu â chi am eich cwyn.

Rydym yn hapus i dderbyn ac ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. Mae ein holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Ni ystyriwn ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.

Credwn y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddem yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.