| Math o Gontract: | Parhaol |
| Patrwm Gwaith: | Llawn amser |
| Oriau Gwaith: | 37 awr yr wythnos |
| Cyflog: | £36,363 – £42,840 pa (INV6 – INV9) |
| Lleoliad: | Gweithio hybrid (Pen-y-bont ar Ogwr/Cartref) |
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am recriwtio Swyddog Ymgysylltu a Chymorth ar gyfer yr Awdurdod Safonau Cwynion. Gan weithio o fewn Awdurdod Safonau Cwynion Cymru (ASC), mae’r swydd hon yn allweddol ar gyfer ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a’u cefnogi i ymdrin â chwynion yn effeithiol trwy gefnogi hyfforddiant a darparu cyngor. Mae’r rôl hefyd yn cefnogi’r Rheolwr Safonau Cwynion a Gwella wrth hyrwyddo rôl yr Awdurdod Safonau Cwynion i gyrff cyhoeddus, wrth reoli perthnasoedd â’r cyrff cyhoeddus hynny a ddaw o dan y safonau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac wrth brosesu gwybodaeth ganddynt.
Yn y rôl byddwch yn:
- Ymgysylltu â chyrff cyhoeddus i’w cefnogi i sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefn enghreifftiol yr Awdurdod Safonau Cwynion ac i weithredu’n effeithiol o dan y safonau a’r egwyddorion.
- Hwyluso a rhoi hyfforddiant, dylunio, creu, adolygu ac addasu deunydd/cynnwys yn ôl yr angen, yn seiliedig ar Ganllawiau’r Awdurdod Safonau Cwynion ar Ymdrin â Chwynion, gan ddefnyddio fformatau priodol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweinyddu’r gwaith o gasglu data cwynion gan gyrff cyhoeddus ac adolygu’r data a gyflwynir. Archwilio’r data a gesglir ac ymgysylltu yn ôl yr angen. Pan fydd ymholiadau’n codi, cynorthwyo gyda rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyrff a/neu ddarparu’r diweddariadau iddynt am eu perfformiad, gan gynnwys argymell gwelliannau ac asesu unrhyw anghenion hyfforddi a nodir.
- Paratoi a chynnal adnoddau gwybodaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion i gefnogi cyrff cyhoeddus.
- Cynorthwyo gyda chreu a datblygu rhwydweithiau ymdrin â chwynion.
- Ymgysylltu â chyrff cyhoeddus i archwilio unrhyw bryderon ynghylch ymdrin â chwynion y gellir eu datrys trwy hyfforddiant neu gefnogaeth.
(Gweler y Swydd Ddisgrifiad am restr lawn o ddyletswyddau)
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Profiad o greu, addasu a chyflwyno deunyddiau hyfforddi neu gyflwyniadau drwy fformatau amrywiol, i’w cyflwyno wyneb yn wyneb a thrwy lwyfannau ar-lein.
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol.
- Sgiliau gweinyddol a threfnu rhagorol, gyda sylw i fanylion.
- Cyfforddus wrth ddefnyddio offer digidol ar gyfer cyflwyno hyfforddiant, rheoli data a chyfathrebu.
- Disgresiwn llwyr a dealltwriaeth o’r angen am gyfrinachedd.
- Trwydded yrru lawn a mynediad i gerbyd, wedi’i yswirio er defnydd busnes.
(Gweler y Manyleb Person am restr lawn o’r gofynion hanfodol)
Sut mae hyn o fudd i chi?
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r broses o ymdrin â chwynion yng Nghymru.
- Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod.
- Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser hyblyg, Aelodaeth gampfa am bris ostyngol, Health Cash Plan a Chynlluniau Prynu am Bris Gostyngol.
- Gweithio hybrid gyda cyfleusterau ar y safle ardderchog, gan gynnwys parcio ar y safle rhad ac am ddim ac offer ar gyfer gweithio o gartref.
- Awr er llesiant ar gyfer gweithgaredd o’ch dewis bob mis.
- Gwiriad iechyd blynyddol.
- Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth.
Sut i ymgeisio:
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw:
5 yh dydd Iau 5 Chwefror 2026. Rydym yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.