Cyflwyniad

Mae gennym y pŵer i gynnal ‘ ymchwiliadau ar ei liwt ei hun’. Mae hyn yn golygu y gallwn ymchwilio i faterion, lle mae gennym amheuaeth resymol o gamweinyddu eang neu fethiant gwasanaeth gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed os nad yw wedi derbyn cwyn yn ei gylch gan unigolyn.

Gallwn ddechrau ymchwiliad ‘ ar ei liwt ei hun’ mewn dwy ffordd :

  • Ymestyn ymchwiliad byw i gŵyn a ddygwyd gan unigolyn: neu
  • Ymchwiliad annibynnol nad yw’n ymwneud ag unigolyn neu gŵyn benodol.

Mae’r ymchwiliad ar ei liwt ei hun annibynol yn rhoi cyfle i ni ddarparu gwasanaeth sy’n ymatebol i faterion cyfredol, sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’n bŵer i ymchwilio i broblem sydd – neu a allai fod – yn eang.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut byddwn yn defnyddio ein pwerau ymchwilio ar ein liwt ein hunain.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Ymchwiliadau ar ein Liwt ein Hunain estynedig ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’, o dan y tab ‘Amdanom ni’.

 

Beth allwn ei wneud

Gallwn ddechrau ymchwiliad annibynol ar ein liwt ein hunain pan fydd yn fodlon bod tystiolaeth yn awgrymu neu’n dangos bod camweinyddu/methiant gwasanaeth eang wedi digwydd, yn bodoli’n barod neu bod potensial i hynny ddigwydd.

Gall ymchwiliad ar ein liwt ein hunain ystyried rhan neu sector cyfan o wasanaeth a ddarperir gan gorff cyhoeddus yng Nghymru a/neu bryderon sy’ n ymwneud â mwy nag un corff.

Byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael i ni i sefydlu a oes angen dechrau ymchwiliad. Byddwn hefyd yn ystyried a yw’r meini prawf (ar gael ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’, o dan y tab ‘Amdanom ni’) i wneud hynny yn cael eu bodloni, gan gynnwys:

  • A yw’r mater er budd y cyhoedd
  • A oes amheuaeth resymol o gamweinyddu eang a allai beri i unigolyn neu grŵp eang o bobl brofi anghyfiawnder neu galedi
  • A fyddai’r pryderon a nodwyd yn effeithio ar grŵp eang o bobl, yn enwedig os gallent fod yn agored i niwed neu dan anfantais (er enghraifft, unigolyn neu grŵp o unigolion a fyddai’n ei chael hi’n anodd gwneud cwyn) ac yn ymddangos yn debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad
  • Natur, swm a dibynadwyedd y dystiolaeth sydd ar gael

Nid oes diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn eang ar gyfer budd y cyhoedd, ond mae wedi cael ei ddisgrifio fel “rhywbeth sydd o bwysigrwydd a diddordeb sylweddol i’r cyhoedd”. Mae budd y cyhoedd felly’n ymwneud â rhywbeth sy’n effeithio ar y cyhoedd. Mae’n golygu mwy na rywbeth mae gan y cyhoedd ddiddordeb ynddo, neu fater sy’n effeithio ar unigolyn a neb arall (ond gallai’r mater effeithio’n fwy uniongyrchol ar yr unigolyn na’r cyhoedd yn ehangach).

Nid ydy cyhoedd yn y cyd-destun hwn yn golygu poblogaeth gyfan Cymru o reidrwydd. Gall gyfeirio at ran benodol o’r cyhoedd, megis cymuned fach neu grŵp buddiant.

 

 

Beth na allwn ei wneud

Er y gallwn ystyried gwybodaeth a ddarparir i ni gan weithwyr sy’n trosglwyddo gwybodaeth ynghylch camwedd yn eu gweithle (chwythwyr chwiban), ni fydd unrhyw ymchwiliad sy’n deillio o hyn yn disodli nac yn ymyrryd â dyletswyddau, cyfrifoldebau a phrosesau chwythu’r chwiban y cyrff cyhoeddus dan sylw. Byddwn yn cyfeirio unrhyw chwythwyr chwiban posibl at y corff dan sylw neu unigolyn priodol i’w ystyried.

Mae cwynion am ddigwyddiadau penodol neu gwynion am gamweinyddu/methiant gwasanaeth sy’n effeithio ar aelodau unigol o’r cyhoedd yn unig yn annhebygol o fodloni’r meini prawf ar gyfer ymchwiliad ar ei liwt ei hun. Mae materion o’r fath yn fwy priodol i’w hystyried gan ddefnyddio ein pwerau ymchwilio cyffredinol.

 

Materion i'w cadw mewn cof

Pan fyddwn o’r farn y dylem ddechrau ymchwiliad, byddwn yn trefnu ymarfer ymgynghori â rheoleiddwyr cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i ofyn am farn ar briodoldeb ymchwiliad. Rydym am atal unrhyw ddyblygu gwaith a gall fod yn bosibl cydweithio ag un o’r cyrff hyn i gynnal ymchwiliad ar y cyd a llunio adroddiad.

Mewn rhai achosion gallwn ofyn barn y cyhoedd yn ehangach, drwy hysbysebu’r ymchwiliad arfaethedig ar ein gwefan, yn y cyfryngau a/neu drwy gynnal digwyddiadau trafod. Efallai na fydd yn angen ymgynghori â’r cyhoedd ehangach ym mhob achos, a bydd hyn yn cael ei benderfynu gan yr Ombwdsmon, fesul achos, gan ystyried y dystiolaeth sydd eisoes ar gael.

 

Awgrymiadau ar gyfer ymchwiliadau

Gall y canlynol gyflwyno awgrymiadau ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun:

• Y cyhoedd

• Grwpiau defnyddwyr gwasanaethau, elusennau neu sefydliadau gwirfoddol

• Gwasanaethau eiriol

Os ydych chi’n dymuno awgrymu ymchwiliad, gallwch wneud hynny ar dudalen awgrymiadau ‘Ymchwiliadau Ar ei Liwt ei Hun‘, o dan y tab ‘Amdanom ni’.

 

Cysylltu â ni

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi am ymchwiliadau ar ein liwt ein hunain, cysylltwch â ni
Areiliwteihun@Ombwdsmon.cymru