Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn ymdrin â phroblemau personél a chyflogaeth. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’r daflen wybodaeth gyffredinol, ar gael yma. Mae’r Daflen Ffeithiau hon wedi’i hanelu’n bennaf at bobl sy’n cael eu cyflogi gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru (er enghraifft, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol – gan gynnwys Cynghorau Cymuned a Thref – a’r GIG), sydd â phroblem sy’n gysylltiedig â’u swydd ac sy’n ystyried cwyno i’r Ombwdsmon.
Gall yr Ombwdsmon ystyried cwynion am y canlynol:
Mae gwaith yr Ombwdsmon o edrych ar gwynion sy’n ymwneud â materion cyflogaeth wedi’i gyfyngu i’r ddau faes uchod.
Ni all ymchwilio i gwynion am faterion cyflogaeth megis y canlynol:
Bydd gan lawer o achwynwyr yr hawl i fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth i geisio datrys eu cwynion.
Er bod cyfyngiad ar y math o gwynion yn ymwneud â materion cyflogaeth a phersonél y gall yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt, gall, er hynny, ymchwilio i gwynion a wneir gan gyflogai Cyngor fel defnyddiwr gwasanaeth yn achos gwasanaethau maent yn eu cael gan y Cyngor, er enghraifft, problemau ag addysg, tai neu wasanaethau cymdeithasol. Gellir ymchwilio i’r cwynion hyn yn y ffordd arferol, ac nid yw’n gwneud gwahaniaeth bod y sawl sy’n cwyno’n cael ei gyflogi gan y Cyngor.
Os ydych yn cael eich cyflogi gan y Cyngor (neu’n aelod ohono) a bod gennych gŵyn yn erbyn y gwasanaethau mae’r cyngor yn eu darparu i chi, dylech ddarllen y Daflen Ffeithiau berthnasol ar gyfer y math hwnnw o gŵyn.
Yn aml bydd materion cyfreithiol cymhleth ynghlwm wrth broblemau cyflogaeth a phersonél a dylech wneud yn siŵr eich bod yn derbyn cyngor priodol.
Bydd llawer o gyfreithwyr yn gallu cynnig cyngor ar broblemau personél a chyflogaeth; fodd bynnag, codir tâl am y cyngor hwn fel arfer.
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ac amhleidiol; ni all orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn mae’n ei argymell – ond, fel arfer, maent yn gwneud hynny bron yn ddieithriad.
Ceir enghreifftiau o achosion y mae’r Ombwdsmon wedi ymchwilio iddynt ar ein gwefan. Ewch i www.ombwdsmon.cymru.
Os ydych chi’n ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.