Mae’r Taflen Ffeithiau hon yn sôn am Gyllid Myfyrwyr. Dylid ei darllen â’n taflen wybodaeth gyffredinol, ar gael yma.
Os ydych chi yn byw fel arfer yng Nghymru ac yn astudio naill ai yng Nghymru, neu yn unrhyw le arall yn y DU, mae’n bosibl bod gennych hawl i gael cyllid myfyrwyr i dalu costau eich ffioedd dysgu a’ch costau byw.
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu cyllid, ar ran Llywodraeth Cymru, tuag at y ffioedd a’r costau byw sy’n wynebu myfyrwyr wrth astudio mewn addysg uwch. Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (CBF), fel un o asiantau Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am asesu a yw myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth ariannol, ac am brosesu a thalu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr.
Mae gan CBF, sy’n disgyn o dan y brand Cyllid Myfyrwyr Cymru, drefn gwyno y dylid cyfeirio cwynion ati. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynghylch a ydych yn gymwys i gymorth ariannol, mae angen i chi ddilyn y broses apelio. Er nad yw’r CBF yn gorff sydd o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon, pan fo’r CBF yn cyflawni un o swyddogaethau Llywodraeth Cymru (wrth weinyddu a phrosesu grantiau a lwfansau i fyfyrwyr yng Nghymru), mae ei weithredoedd o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon. Fodd bynnag, rhaid i chi gwyno wrth y CBF cyn cyflwyno eich cwyn i ni.
Mae’n bosibl i’r Ombwdsmon ystyried cwynion am y canlynol:
Ni all yr Ombwdsmon:
Nid oes angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr neu eiriolwr arall i gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon; mae ei wasanaeth yn ddi-dâl ac yn ddiduedd ac rydym yn ceisio gofalu bod y broses mor hawdd â phosibl i achwynwyr ei dilyn.
Gallwch gael cyngor annibynnol di-dâl gan eich Cyngor ar Bopeth leol a all eich helpu i gyflwyno cwyn: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am sut i gwyno am gyllid myfyrwyr ar y gwefannau canlynol:
Mae enghreifftiau o achosion y mae’r Ombwdsmon wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan.
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.