Mae gennym y pŵer i ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ar ein liwt ein hunain’ lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant gwasanaeth systematig neu gamweinyddu ond lle nad ydym wedi derbyn cwyn.
Rhaid inni fod yn fodlon bod y meini prawf ar gyfer ymchwilio wedi’u bodloni.
Gallwn ddechrau ymchwiliad ar ei liwt ei hun mewn 2 ffordd:
• Ehangu ymchwiliad presennol i gwyn a wnaed gan unigolyn
• Dechrau ymchwiliad annibynnol nad yw’n ymwneud â chwyn a wnaed gan unigolyn
Gallwch wneud awgrym ar gyfer Ymchwiliad ar ei Liwt ei Hun yma.