Rydym yn hapus i dderbyn ac ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. Mae ein holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Trosolwg
Gallwn ystyried cwynion:
- am gyrff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus,
- am ddarparwyr gofal annibynnol, a
- bod cynghorwyr lleol wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Cwynion am ddarparwyr gwasanaeth
Cyn i chi gyflwyno eich cwyn
Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth isod. Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio i chi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor (0300 790 0203).
![]() |
Darllenwch mwy am yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus.
Darllenwch mwy am yr hyn y gallwn ymchwilio iddo o ran darparwyr gofal annibynnol.
Mae gennym daflenni ffeithiau manwl sy’n esbonio’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud feswl pwnc y gwŷn. Ewch i’n tudalen taflenni ffeithiau.
Ni allwn edrych i mewn i bob corff yng Nghymru o fewn ein hawdurdod. Ewch i restr fanwl o sefydliadau y gallwch gwyno i ni amdanynt.
Barod i gwyno am ddarparwr gwasanaeth?
Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, ewch i’n ffurflen gwyno ar-lein.
Bydd y ffurflen yn eich helpu penderfynu ydy eich cwyn yr un rydym yn gallu edrych arni. Bydd hefyd yn rhoi cymorth i chi adnabod y corff yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn. Os yw eich cwyn yn ymwneud â darparwr gofal annibynnol, gofynnwn i chi roi ei fanylion.
Gallwch hefyd
- argraffu ac anfon eich ffurflen gwyno atom ni:
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.
Lawrlwythwch ffurflen gwyno am ddarparwr gwasanaeth [PDF, 277KB]
Lawrlwythwch ffurflen cwyno am ddarparwr gwasanaeth mewn fformat Hawdd ei Ddarllen [PDF, 700 KB]
Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post.
- cwyno i ni dros y ffôn: 0300 790 0203.
Ewch i wybodaeth pellach am ein proses ar gyfer derbyn cwynion dros y ffôn.
- Os rydych yn dymuno gwyno ar ran rhywun arall, bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ein ffurflen ganiatâd.
Lawrlwythwch ein Ffurflen Ganiatâd [Word doc, 140 KB]
Lawrlwythwch ein canllaw statudol ar sut i gyflwyno cwyn [PDF, 282 KB]
Beth os rydw i eisiau cwyno mewn iaith arall?
Gallwn eich cefnogi os dymunwch ddefnyddio iaith arall wrth gyfathrebu â ni.
Nasze dokumenty po polsku (ein dogfennau yn Bwyleg)
Beth os oes angen help arna i er mwyn cwyno?
Gallwn ni eich helpu chi i ddefnyddio ein gwasanaeth. Ewch i ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael. Gallwch hefyd ein ffonio i ofyn am gefnogaeth (0300 790 0203).
Cwynion am gynghorwyr lleol
Cyn i chi gyflwyno eich cwyn
Gwnewch yn sicr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth isod. Bydd yn eich helpu i ddeall y materion y gallwn a ni allwn edrych arnynt ac bydd yn esbonio i chi beth fydd yn digwydd i’ch cwyn. Gallwch hefyd ein ffonio am gyngor (0300 790 0203).
![]() |
Darllenwch fwy am pryd a sut y gallwch gwyno i ni am ymddygiad cynghorwyr lleol.
Darllenwch fwy am yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am ymddygiad cynghorydd lleol.
Mae gennym daflenni ffeithiau manwl sy’n esbonio’r hyn a allwn ac ni allwn ei wneud feswl pwnc y gwŷn. Ewch i’n tudalen taflenni ffeithiau.
Barod i gwyno am gynghorydd lleol?
Os rydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, ewch i’n ffurflen gwyno ar-lein.
Gallwch hefyd
- argraffu ac anfon eich ffurflen gwyno atom ni:
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.
Lawrlwythwch ffurflen gwyno am gynghorydd lleol [PDF, 277 KB]
Sicrhewch nad ydych yn plygu, yn styffylu na’n glynu gyda’i gilydd, unrhyw ddogfennau a anfonwch yn y post.
Beth os oes angen help arna i er mwyn cwyno?
Gallwn ni eich helpu chi i ddefnyddio ein gwasanaeth. Ewch i ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael. Gallwch hefyd ein ffonio i ofyn am gefnogaeth (0300 790 0203).
Sut byddwn yn cyfathrebu â chi
Yn unol â’n Safonau Gwasanaeth, ceisiwn cyfathrebu â chi’n effeithiol ar bob adeg. Ewch i ragor o wybodaeth am sut y byddwn yn cyfathrebu â chi am eich cwyn.
Rydym yn hapus i dderbyn ac ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. Mae ein holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Helpwch ni i’ch helpu chi
Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Ni ystyriwn ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.
Credwn y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddem yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.

