Swyddog Arweiniol Data

Math o Gontract: Parhaol ac Amser Llawn
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £39,186 – £46,484 y flwyddyn (SUP19 – SUP22)
Lleoliad: Hybrid – Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ a gweithio gartref
Yn adrodd i: Pennaeth Polisi, Cyfathrebu a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ydych chi’n frwd dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac a oes gennych chi hanes llwyddiannus o ddatblygu a defnyddio dadansoddeg data i ddarparu gwybodaeth i gefnogi ac arwain gwaith a/neu flaenoriaethau sefydliad?

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i recriwtio Swyddog Arweiniol Data, rôl newydd i arwain a goruchwylio’r holl ddata sy’n cael ei gasglu ar draws y Sefydliad.  Mae’r Swyddog Arweiniol Data yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni Strategaeth Data a rhaglen dadansoddi data ar gyfer systemau OGCC a bydd yn gweithio gyda staff ar draws y sefydliad i ddeall y data rydym yn ei gasglu, gwella cysondeb a pherthnasedd data a gesglir a hefyd defnyddio offer a thechnegau dadansoddi data i ddarparu mewnwelediad i lywio gwaith y swyddfa.  Bydd y data a gesglir yn sail i’n hadroddiadau thematig ac Ymchwiliadau Annibynnol yr Ombwdsmon.

Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol ar gael ar y dudalen “Ymunwch â Ni” ar ein gwefan.

Am beth rydyn ni’n chwilio?

  • Profiad mewn o leiaf un o’r meysydd canlynol:
  • Peirianneg Data – fel dylunio algorithmau, rhoi atebion data mawr ar waith, systemau cronfeydd data SQL a NoSQL, ieithoedd dadansoddi ystadegol ac offer
  • Dadansoddeg data – gan gynnwys defnyddio Excel a, er enghrafft, modelu ystadegol, dadansoddiad atchweliad, adnabod patrymau, dysgu dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth, cloddio data a dadansoddi rhagfynegol
  • Rheoli data – fel trin a dadansoddi data cymhleth, niferus a dimensiynol uchel, modelu data a storio yn y cwmwl
  • Adrodd stori a delweddu data – gan gynnwys delweddu gwybodaeth o ddata ac adeiladu cynnyrch sy’n seiliedig ar ddata gan ddefnyddio cynnyrch fel Power BI a Tableau
  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth dechnegol berthnasol
  • Hyfforddiant/cymhwyster ôl-raddedig mewn disgyblaeth gwyddor/dadansoddi data berthnasol
  • Meddylfryd dadansoddol cryf gyda’r gallu i ofyn cwestiynau craff a meddwl yn feirniadol.
  • Gallu gweithio’n adeiladol ac yn broffesiynol gyda phobl ar bob lefel yn y sefydliad a phobl o sefydliadau eraill.

I wneud cais am y rôl hon, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch profiad a’ch arbenigedd ym maes dadansoddeg data.  Byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.  .

Beth yw’r manteision i chi?

  • Cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn, drwy weithio i gefnogi’r Sefydliad i ddarparu cyfiawnder a gwelliannau
  • Cyfle i fod yn rhan o dîm gwych
  • Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 o ddiwrnodau a gwyliau banc ar ben hynny.
  • Mae’r manteision eraill yn cynnwys: Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Oriau Hyblyg, Aelodaeth o Gampfa, Cynllun Arian Iechyd a Chynlluniau Prynu Rhatach.
  • Cyfleusterau rhagorol ar y safle ac offer ar gyfer gweithio gartref.
  • Cwnsela allanol a chymorth iechyd galwedigaethol am ddim pan fo angen.

I wneud cais

Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gael gafael ar y pecyn recriwtio.

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy anfon ebost at: recruitment@ombudsman.wales erbyn 5pm Dydd Gwener 10 Mai 2024. Rydym yn cadw’r hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law, felly peidiwch ag oedi cyn cyflwyno eich cais. 

Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y rôl.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.

Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Pecyn recriwtio

Disgrifiad Swydd

Ffurflen ymgeisio

Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal

Hysbysiad Preifatrwydd