A ydych yn angerddol dros ansawdd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? A hoffech helpu’r Ombwdsmon i gyflawni ei gweledigaeth i unioni pethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ac i ysgogi gwelliant yn y gwasanaethau hynny?

Rydym yn chwilio i benodi Aelod(au) Annibynnol i ymuno â’n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg neu‘r Panel Ymgynghorol (y Panel).

Mae’r rhain yn benodiadau allweddol sy’n sail i’n llywodraethu rhagorol.  Rhaid i chi fod yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a gallu cefnogi a herio’r Ombwdsmon.

Dylech allu dangos tystiolaeth o’ch gallu i ddylanwadu ar sefydliadau ac unigolion, ac ymgysylltu â nhw, ar lefel uchel i hyrwyddo llywodraethu da a newid cadarnhaol.

Rhaid i chi feddu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da a gallu dehongli data cymhleth.  Dylech fod â dealltwriaeth dda o wasanaethau cyhoeddus Cymru a byddai hefyd yn ddymunol pe bai gennych rywfaint o ddealltwriaeth o rôl yr Ombwdsmon.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych os oes gennych arbenigedd/profiad yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:

  • Arweinyddiaeth Strategol a Llywodraethu
  • Diogelwch TG, Digidol a Seiberddiogelwch
  • Cyllid, archwilio neu reoli risg
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Sector yr Ombwdsmon

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a’r Panel yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. Caiff cyfradd ddyddiol o £300 ei dalu i Aelodau, gyda thâl ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a fynychir y tu hwnt i ddyddiadau cyfarfodydd a drefnwyd.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a’r Gymraeg

Rydym yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal a chynhwysol ac rydym am wneud ein gweithlu a’n strwythurau llywodraethu yn fwy amrywiol.

Rydym yn croesawu ac yn annog yn arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol a phobl anabl.

Fel sefydliad dwyieithog, rydym yn defnyddio’r Gymraeg a Saesneg yn ein gwaith ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn Saesneg.

Ar gyfer y rôl hon, nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol, ond maent yn ddymunol.

Sut i ymgeisio

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y rôl hon â’n proses recriwtio yn y pecyn recriwtio ar ein gwefan.

Pan fyddwch yn ymgeisio, gwnewch hi’n glir pa rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Amserlen

Rhaid i chi ymgeisio erbyn hanner dydd, Dydd Llun 7 Medi 2026.   Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a fydd yn cael eu hanfon atom ar ôl y dyddiad hwn.

Llunnir y rhestr fer ar Dydd Gwener 11 Medi 2026.

Cynhelir cyfweliadau yn swyddfeydd OGCC ar Ddydd Gwener 2 Hydref 2026.

Os hoffech drafod yn anffurfiol gyda’r Ombwdsmon am y rôl, e-bostiwch recriwtio@ombwdsmon.cymru neu ffoniwch 01656 644214 a gwnawn gysylltu â chi gyda dyddiad ac amser addas.

 

Disgrifiad Swydd

Pecyn Recriwtio

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb