Rydym yn ceisio eich barn ar ein Cynllun Strategol drafft, i lunio blaenoriaethau ein swyddfa ar gyfer 2023-2026.

Dyddiad Cau’r Ymgynghoriad: 22 Tachwedd 2022

Diben yr ymgynghoriad

Roedd ein Cynllun Corfforaethol blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2019 a 2022. Rydym nawr yn datblygu set newydd o nodau strategol i gyflawni ein huchelgais ar gyfer y swyddfa:

  • Mae pobl Cymru yn teimlo bod gwasanaethau cyhoeddus yn eu trin yn deg ac yn ymateb pan aiff pethau o chwith.
  • Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwrando ar unigolion ac yn defnyddio eu cwynion i ddysgu a gwella.
  • Mae ymddiriedaeth yn llywodraeth leol Cymru i gyflawni’r safonau uchaf o ymddygiad.
  • Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn parhau i fod yn llais dylanwadol ac uchel ei barch o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.

I gyflawni’r uchelgais hwn, gwyddom fod angen inni drafod yr heriau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, a’n swyddfa, yn y Gymru ôl-bandemig newydd. Bydd angen inni archwilio ffyrdd newydd o weithio a gwneud mwy i ddangos sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth.

Ein Nodau Strategol arfaethedig yw:

  • Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus
  • Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant
  • Ehangu ein gwaith gwella rhagweithiol
  • Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol

Rydym yn gorff sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus ac rydym yn atebol am sut yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau i Senedd Cymru.  Mae ein Cynllun Strategol arfaethedig yn uchelgeisiol, ond yn realistig ynghylch yr adnoddau a’r capasiti sydd ar gael inni. Rydym yn deall y bydd cwmpas y Cynllun terfynol yn dibynnu ar yr adnoddau a ymddiriedwyd inni gan y Senedd.

 

Ein Cynllun Strategol drafft:

Gallwch weld ein Cynllun drafft yma:

 

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

  1. A yw ein huchelgais fel y nodir yn y Cynllun yn glir ac yn briodol?
  2. A yw ein Nodau Strategol datganedig yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r heriau sy’n ein hwynebu? Os nad ydynt, pa newidiadau fyddech yn eu hawgrymu?
  3. Byddwn yn datblygu cynlluniau gweithredu blynyddol manylach, ond rydym wedi cynnwys camau gweithredu lefel uchel arfaethedig yn ein Cynllun Strategol.  Dywedwch wrthym am eich barn ar ein camau gweithredu arfaethedig o dan pob Nod Strategol.
  4. A ydych yn cytuno â’n hymagwedd ddatganedig o ran sut y byddwn yn dangos dylanwad ac effaith ein gwaith? A allwch awgrymu unrhyw ffyrdd eraill o fesur sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth?
  5. Byddwn yn parhau i weithio yn unol â Safonau’r Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Pa effeithiau y gallai’r Cynllun ei gael ar y Gymraeg ac yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac wrth beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?  Sut y gellid hybu effeithiau cadarnhaol, neu liniaru effeithiau negyddol?
  6. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar ein Cynllun Strategol drafft?

Sut i ymateb

Rhannwch eich barn gyda ni erbyn hanner nos 22 Tachwedd 2022 trwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

  • Llenwch ein ffurflen ar-lein
  • E-bostiwch eich ymateb i cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
  • Postiwch eich ymateb i: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
  • Ffoniwch ni ar 0300 790 0203 a gofynnwch i gael siarad ag aelod o’r Tîm Cyfathrebu.
  • Ymunwch â chyfarfod agored ar-lein: ewch yma i gofrestru.

Os oes arnoch angen y ddogfen mewn fformat arall, cysylltwch â ni.

Hysbysiad Preifatrwydd

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • Yr hawl i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch a’r hawl i’w gyrchu
  • Yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data
  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i ‘ddileu’ eich data
  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i hygludedd data
  • Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Efallai y bydd ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym.

Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol am ragor o fanylion am y wybodaeth y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR.  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau ynghylch sut yr ydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymgynghoriadau.