
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl
Cyflwyniad
Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn grant gorfodol gan y cyngor sy’n helpu i dalu am gostau addasu cartref person anabl er mwyn iddo allu parhau i fyw yno mor annibynnol ag y bo modd. Gall tenantiaid, berchen-feddianwyr a landlordiaid sydd â thenant ag anabledd wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.
Yn dibynnu ar y math o waith a wneir, a phwy y mae’r gwaith ar ei gyfer, gellir gwneud prawf modd. Mae hyn yn golygu, gan ddibynnu ar eich incwm, cynilion ac alldaliadau, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cyfraniad tuag at gost y gwaith. Yng Nghymru, uchafswm dyfarniad Grant Cyfleusterau i’r Anabl yw £36,000 ar hyn o bryd. Nid yw profion modd yn berthnasol i rieni plant anabl dibynnol neu bobl ifanc o dan 19, neu pan fo gwaith bach neu ganolig sydd fel arfer yn costio llai na £1,000 yn cael ei wneud.
Dyma enghreifftiau o’r mathau o addasiadau y gall y Grant dalu amdanynt:
- lledu drysau a gosod rampiau neu lifftiau grisiau;
- gwneud addasiadau i’r gegin a’r ystafell ymolchi e.e. i gael cawod y gellir cerdded i mewn iddi;
- estyniadau (ar gyfer ystafell ymolchi a/neu ystafell wely i lawr y grisiau o bosibl);
- gosod system wresogi addas sy’n diwallu anghenion y person anabl;
- addasu dulliau rheoli’r system wresogi neu oleuo er mwyn iddynt fod yn haws eu defnyddio.
Cyn y bydd cais ffurfiol am Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei ystyried, fel arfer bydd angen i therapydd galwedigaethol o’r adran gwasanaethau cymdeithasol asesu anghenion y person anabl, a gweld a yw’r gwaith “yn angenrheidiol ac yn briodol”. Fel rheol, bydd argymhellion y therapydd galwedigaethol yn cael eu rhoi i’r Adran Dai sy’n gweinyddu Grant Cyfleusterau’r Anabl. Yna bydd y cyngor yn gorfod penderfynu a yw’n “rhesymol ac yn ymarferol” gwneud y gwaith.
Gan ddibynnu ar argymhellion y therapydd galwedigaethol, gallai cyngor gyflawni nifer o archwiliadau eraill yn y cyfnod ymholiadau cychwynnol. Dylai eich cyngor lleol allu dweud mwy wrthych, gan gynnwys a oes angen i chi lenwi ffurflen ymholiadau cyn ymgeisio am Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Pan fydd y cam hwn wedi’i gwblhau’n foddhaol, bydd angen i chi fel arfer gyflwyno cais ffurfiol am Grant Cyfleusterau i’r Anabl ynghyd â dogfennau eraill.
Os yw’r cyngor wedi cael y wybodaeth berthnasol, yn gyfreithiol, mae’n rhaid iddo eich hysbysu o benderfyniad ar Grant Cyfleusterau i’r Anabl o fewn chwe mis iddo ddod i law.
Yr hyn gallwn ei wneud
Gallwn edrych ar:
- a yw’r Cyngor wedi oedi’n afresymol yn ystod y cyfnod cyn ac ar ôl i chi wneud cais am y Grant Cyfleusterau i’r Anabl, gan gynnwys trefnu asesiad gan therapydd galwedigaethol;
- os gwrthodir cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl, a yw’r cyngor wedi ystyried yr holl wybodaeth y mae’r ymgeisydd wedi’i chyflwyno ac wedi cynnal unrhyw broses apelio fewnol yn gywir;
- a yw’r cyngor wedi cyflawni ei swyddogaethau arolygu/monitro yn ddigonol (nid yw’r cyngor yn gyfrifol am oruchwylio gwaith contractwr/adeiladwr o ddydd i ddydd fel arfer).
Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud
Ni allwn:
- delio ag anghydfodau cyfreithiol rhyngoch chi a’r contractwr sy’n gwneud y gwaith;
- gwneud i’r cyngor roi Grant Cyfleusterau i’r Anabl dyfarniad uwch os yw’r penderfyniad wedi cael ei wneud yn briodol.
Materion i gadw mewn cof
Os ydych chi’n denant i Gymdeithas Dai neu’n denant i Gymdeithas a grëwyd ar ôl trosglwyddo stoc, dylech holi a oes gan eich landlord ei gynllun ei hun ar gyfer addasu ei adeiladau.
Wrth benderfynu a yw’r gwaith yn rhesymol ac yn ymarferol, mae oed a chyflwr yr eiddo yn rhai o’r ffactorau a ystyrir. Er enghraifft, efallai fod cynllun y tŷ yn golygu nad oes modd gosod lifft grisiau, neu efallai fod yr eiddo wedi adfeilio a bod angen gwneud cryn dipyn o waith atgyweirio arno. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd y cyngor yn penderfynu ei bod yn fwy cost-effeithiol i berson symud i lety arall sy’n fwy addas.
Weithiau, bydd yn rhaid gwneud gwaith ychwanegol a fydd yn golygu bod y gost yn uwch na’r dyfarniad uchaf y gellir ei roi ar gyfer Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Mae gan y cyngor yr hawl i roi cymorth ychwanegol, ar ffurf benthyciad weithiau. Er nad oes rhaid i gyngor roi cymorth sydd ddim yn orfodol, dylai ystyried cais am gymorth o’r fath.
Er nad oes rhaid iddo wneud hynny, mae gan gyngor hawl i roi Grant Cyfleusterau i’r Anabl sydd ddim yn orfodol ar gyfer addasiadau nad ydynt yn orfodol o dan y Grant Cyfleusterau i’r Anabl.
Gwybodaeth bellach
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn y mannau canlynol:
- www.gov.uk/disabled-facilities-grants;
- Ymchwil Senedd Cymru “Cymhorthion ac addasiadau yn y cartref – canllaw i etholwyr” 24-23-cymhorthion-ac-addasiadau-yn-y-cartref.pdf
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru