Cyflwyniad

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.  Mae’n cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau ar gyfer llesiant pobl yng Nghymru. Os credwch  nad yw AGC wedi dilyn y gyfraith, rheoliadau neu ganllawiau, mae’n bosib y byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn. Fel arfer, byddwn yn disgwyl i chi gwyno wrth AGC (Llywodraeth Cymru) ei hun yn gyntaf.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn:

  • edrych ar gwynion am ddiffygion gweithdrefnol a gweinyddol
  • edrych ar gwynion lle nad yw AGC wedi rhoi ymateb neu lle mae wedi rhoi ymateb anfoddhaol;
  • edrych ar gwynion am broses adrodd AGC.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • edrych ar unrhyw faterion yn ymwneud ag atal o’r gwaith, disgyblu neu faterion personél yn ymwneud â swyddogion AGC neu’r cyrff mae’n eu rheoleiddio neu’n eu harolygu;
  • codi cwestiynau am benderfyniad priodol y mae gan AGC hawl i’w wneud.

 

Gwybodaeth bellach

Gellir cael gwybodaeth bellach am AGC, yn cynnwys copïau o adroddiadau arolygu, ar ei gwefan: https://arolygiaethgofal.cymru/

Os ydych chi am apelio yn erbyn penderfyniad rheoleiddio a wnaethpwyd gan AGC, a’ch bod eisoes wedi cyflwyno sylwadau i AGC, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal:

Tribiwnlys Safonau Gofal, Llawr 1af, Llys Ynadon Darlington, Parkgate, DL1 1RU; Ffôn: 01325 289350; E-bost: cst@justice.gov.uk

Os oes gennych chi gŵyn am ymddygiad gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr gofal, gallwch gysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru:

Gofal Cymdeithasol Cymru , Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW; Ffôn: 0300 30 33 444 E-bost: gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru

Gwefan: https://gofalcymdeithasol.cymru

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen