Ein nod yw darparu gwasanaeth Ombwdsmon o’r radd flaenaf i Gymru.
Rydym yn croesawu adborth ar eich profiad cadarnhaol o’n gwasanaeth.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd achlysuron pan fydd achwynwyr yn anhapus â’n penderfyniadau neu’r gwasanaeth yr ydym wedi’i ddarparu.
Y Broses Adolygu Penderfyniad – pan fyddwch yn anhapus â’n penderfyniad
Gallwch ofyn am adolygiad o’n penderfyniad i beidio ag ymchwilio i’ch cwyn, neu benderfyniad i eithrio rhan o gŵyn o ymchwiliad.
Ni allwn adolygu penderfyniad dim ond am eich bod yn anghytuno ag ef.
I ni ystyried eich cais adolygu, rhaid i chi allu dangos na wnaethom ystyried tystiolaeth benodol a oedd ar gael a dweud sut effeithiodd hynny ar y penderfyniad.
Dylech gyflwyno eich cais o fewn 4 wythnos ar ôl y penderfyniad rydych chi am iddo gael ei adolygu.
Mae taflen ffeithiau am ein Proses Adolygu Penderfyniad ar gael ar ein tudalen Proses Adolygu Penderfyniad.
Y Broses Gwyno Amdanom Ni – pan fyddwch yn anhapus â’n gwasanaeth
Fel rhan o’m hymrwymiadau gwasanaeth, ein nod yw:
- darparu proses hygyrch, syml, effeithiol a thryloyw ar gyfer ymchwilio i gwynion am y gwasanaeth a roddwn;
- bodloni gofynion Safonau’r Gymraeg;
- ymateb yn gyflym i gwynion am y gwasanaeth a ddarparwyd gennym; ac,
- os ydym ar fai neu wedi rhoi gwasanaeth gwael, ymddiheuro a dysgu oddi wrth ein camgymeriadau.
Rydym am glywed eich sylwadau a’ch pryderon am y gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu, gan gynnwys sylwadau neu bryderon am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.
Os yw’n well gennych gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r ffurflen, a’i harbed i’ch cyfrifiadur. Gallwch lenwi’r ffurflen â llaw drwy ei hargraffu a’i hanfon wedi’i llenwi i’n cyfeiriad post:
Ombwdson Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed
CF35 5LJ