Adolygu penderfyniadau sy’n ymwneud ag achosion

Ein nod yw darparu gwasanaeth safon uchel i ymdrin â chwynion, sy’n ystyried ac yn dod i benderfyniad ynghylch cwynion mewn modd trylwyr ond cyfatebol, ac sy’n egluro penderfyniadau’n glir. Rydym yn cydnabod y gall pobl sy’n cwyno fod yn anhapus weithiau ynghylch y penderfyniad rydym wedi’i wneud. Efallai eu bod yn teimlo nad ydym wedi ystyried eu cwyn yn ddigonol neu ein bod wedi gwneud camgymeriad.

Mae gennym broses lle gallwch, o dan amgylchiadau penodol, ofyn i benderfyniad rydym wedi’i wneud ar gŵyn gael ei adolygu. Mae’r daflen ffeithiau hon yn trafod hynny.

Dylech fod yn ymwybodol bod y gyfraith yn caniatáu i’r Ombwdsmon benderfynu pa gwynion i fwrw ymlaen â nhw, i’w hystyried neu ymchwilio ymhellach, a phryd i gau achosion.

 

Beth mae’r broses hon yn ei gynnwys?

Gall y broses adolygu edrych ar sut y daethom i’n penderfyniad ar eich cwyn. Ni fydd yn ailasesu eich cwyn yn erbyn y corff cyhoeddus.

Dyma penderfyniadau y gellir eu hadolygu:

  • Penderfyniad i beidio ag ymchwilio i gŵyn
  • Penderfyniad i eithrio rhan o gŵyn o ymchwiliad

Dyma rai penderfyniadau na fydd yn dod o dan y broses adolygu.

  • Canlyniad neu’r modd y cynhaliwyd ymchwiliad llawn
  • Penderfyniad i derfynu ymchwiliad
  • Argymhellion a wneir ar ddiwedd ymchwiliad neu fel rhan o gytundeb gyda’r corff y cwynir yn ei erbyn.
  • Cwynion a gaewyd am nad ydynt wedi’u cyflwyno i’r corff cyhoeddus y cwynwyd amdano eto
  • Cwynion a gaewyd am eu bod yn erbyn corff sydd y tu allan i awdurdodaeth yr Ombwdsmon
  • Cwynion a gaewyd gyda hysbysiad penderfynu mai mater bach yw hwn ac nad yw’n ddigon difrifol i’r Ombwdsmon ei ystyried ymhellach.

Gellir codi unrhyw bryderon am y penderfyniadau hyn gyda pherchennog yr achos.  Efallai y bydd opsiynau cyfreithiol eraill ar gael i chi ar benderfyniadau ymchwilio, ac efallai yr hoffech gael cyngor cyfreithiol.

 

Beth mae’n rhaid i chi ei wneud i ofyn am adolygiad?

Nid oes hawl awtomatig i gael adolygiad. Nid proses apelio yw’r broses adolygu. Ni fyddwn yn derbyn eich cais dim ond am eich bod yn anghytuno â’n penderfyniad.

Er mwyn i ni ystyried eich cais am adolygiad, rhaid i chi:

  • Ei chyflwyno i ni o fewn 4 wythnos ar ôl dyddiad y penderfyniad dan sylw, ac
  • Esbonio pam nad ydym wedi ystyried y wybodaeth a anfonasoch atom yn briodol, a
  • Dweud wrthym sut yr effeithiodd hyn ar ein penderfyniad.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am adolygiad ar ôl 4 wythnos, oni bai ein bod yn cytuno bod amgylchiadau eithriadol a oedd yn golygu na allech fodloni’r dyddiad cau.

Gallwch anfon cais am adolygiad atom drwy lenwi’r ffurflen sydd ar gael yn y fan hon https://www.ombwdsmon.cymru/sut-i-wneud-cais-am-adolygiad-o-benderfyniad-rydym-wedii-wneud-neu-sut-i-gwyno-am-ein-gwasanaeth/

Neu gallwch argraffu ac anfon y ffurflen atom drwy’r post i:

Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

1 Ffordd yr Hen Gae,

Pencoed,

CF35 5LJ.

Os oes angen help arnoch i gael mynediad at y broses a llenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni ar 0300 790 0203.

 

Os ydych chi’n credu bod gennych wybodaeth newydd

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cwyn i’r Ombwdsmon, dylech roi’r wybodaeth berthnasol i ni.  Os ydych chi’n credu bod gennych wybodaeth newydd ac ychwanegol nad oedd ar gael i ni pan wnaethom ein penderfyniad, dylech ei hanfon at berchennog yr achos iddynt ei hystyried. Efallai y gofynnir i chi pam na wnaethoch chi gyflwyno hwn pan wnaethoch eich cwyn.

 

Beth rydym yn ei wneud wrth dderbyn eich cais?

Byddwn yn cydnabod eich cais o fewn wythnos.

Os na allwn dderbyn eich cais, byddwn yn dweud wrthych pam.

Os gallwn ei dderbyn, byddwn yn trefnu i Swyddog Adolygu nad oedd yn gysylltiedig yn flaenorol i ystyried eich cais.

Fel arfer, byddwn yn anelu at ysgrifennu atoch gyda’r canlyniad o fewn 6 wythnos ond gall ceisiadau cymhleth gymryd mwy o amser.

 

Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Mae pobl weithiau’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i wneud cais am adolygiad. Mae ein profiad yn dangos bod cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial weithiau’n gallu cynnwys deunydd anghywir neu ddeunydd nad yw’n cael ei ategu.  Felly, gofynnwn i chi wirio unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial cyn ei gynnwys mewn gohebiaeth.  Ni fydd deunydd anghywir a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial yn cael ei ystyried.

 

Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth ymateb.