Ein hamserau ymateb i geisiadau adolygu:

Ar hyn o bryd, rydym yn gweld galw uchel am y rhan hon o'n gwasanaeth ac, er tegwch i bawb sy'n cwyno, rydym yn delio â cheisiadau yn ôl trefn derbyn. Er bod ein Taflen Ffeithiau yn egluro ein bod fel arfer yn anelu i anfon ein penderfyniad adolygu atoch o fewn 6 wythnos, mae ein hamser aros presennol tua 12 wythnos. Bydd ein cadarnhad o'ch cais yn darparu gwybodaeth ddiweddar am y sefyllfa bresennol. Yna byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd atoch os oes angen. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd yn ystod yr amser hwn.

Defnydd o AI:

Rydym yn ymwybodol bod llawer o achwynwyr yn cyflwyno gwybodaeth gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI). Er bod gan achwynwyr hawl i ddewis sut maent yn cyflwyno, yn adolygu ac yn ymateb i'n gohebiaeth, hoffem gynghori y gall cynnwys a gynhyrchir gan AI gynnwys honiadau ffug neu heb eu cefnogi weithiau.

I gynnal uniondeb a dibynadwyedd wrth gyfathrebu â ni, rydym yn cynghori eich bod yn gwirio unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan AI cyn ei gynnwys yn eich ymatebion. Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw gamddehongliadau posibl neu gynnwys gwybodaeth anghywir.

Ein nod yw darparu gwasanaeth Ombwdsmon o’r radd flaenaf i Gymru.

Rydym yn croesawu adborth ar eich profiad cadarnhaol o’n gwasanaeth.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd achlysuron pan fydd achwynwyr yn anhapus â’n penderfyniadau neu’r gwasanaeth yr ydym wedi’i ddarparu.

Y Broses Adolygu Penderfyniad – pan fyddwch yn anhapus â’n penderfyniad

Gallwch ofyn am adolygiad o’n penderfyniad i beidio ag ymchwilio i’ch cwyn, neu i derfynu ymchwiliad. Gallwch hefyd ofyn am adolygiad os ydych o’r farn bod ein penderfyniadau yn dilyn ymchwiliad yn rhai diffygiol.

Ni allwn adolygu penderfyniad dim ond am eich bod yn anghytuno ag ef.

I ni ystyried eich cais adolygu, rhaid i chi fod â thystiolaeth newydd, neu raid i chi allu dangos na wnaethom ystyried tystiolaeth benodol a oedd ar gael.

Dylech gyflwyno eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y penderfyniad rydych chi am iddo gael ei adolygu.

Mae taflen ffeithiau am ein Proses Adolygu Penderfyniad ar gael ar ein tudalen Proses Adolygu Penderfyniad.

Y Broses Gwyno Amdanom Ni – pan fyddwch yn anhapus â’n gwasanaeth

Fel rhan o’m hymrwymiadau gwasanaeth, ein nod yw:

  • darparu proses hygyrch, syml, effeithiol a thryloyw ar gyfer ymchwilio i gwynion am y gwasanaeth a roddwn;
  • bodloni gofynion Safonau’r Gymraeg;
  • ymateb yn gyflym i gwynion am y gwasanaeth a ddarparwyd gennym; ac,
  • os ydym ar fai neu wedi rhoi gwasanaeth gwael, ymddiheuro a dysgu oddi wrth ein camgymeriadau.

Rydym am glywed eich sylwadau a’ch pryderon am y gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu, gan gynnwys sylwadau neu bryderon am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.

Sut i ofyn am adolygiad achos neu sut i wneud sylw neu gwyno am ein gwasanaeth - Ffurflen Ar-lein

I wneud cais am adolygiad o benderfyniad rydym wedi’i wneud neu i wneud sylwadau neu gwyno am ein gwasanaeth (gan gynnwys sut rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg) llenwch un o’r ffurflenni ar-lein isod.

Os yw’n well gennych gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r ffurflen, a’i harbed i’ch cyfrifiadur. Gallwch lenwi’r ffurflen â llaw drwy ei hargraffu a’i hanfon wedi’i llenwi i’n cyfeiriad post:

Ombwdson Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed
CF35 5LJ

 

Mae gennym hefyd fersiynau PDF Hawdd eu deall o’r ffurflenni isod.