Cyflwyniad

Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff yn y sector cyhoeddus, yn amodol ar amrywiol eithriadau ac amodau, wneud y canlynol:

  • Gwneud gwefannau a rhaglenni symudol y sector cyhoeddus yn hygyrch.
  • Darparu datganiad hygyrchedd.

Mae’r rheoliadau hygyrchedd yn datgan nad oes angen i gorff sector cyhoeddus fodloni’r gofyniad hygyrchedd pe bai hyn yn rhoi baich anghymesur arnynt, ar yr amod bod asesiad baich anghymesur yn cael ei gynnal.

Rydyn ni wedi cynnal asesiad baich anghymesur ar y camau posibl y gallem eu cymryd i sicrhau hygyrchedd ein gwefan bresennol. Mae hyn yn golygu nad ydyn ni’n gallu cynnig fersiynau cwbl hygyrch o’r wefan ar hyn o bryd. Mae’r asesiad isod yn nodi ein rhesymau.

 

Y broblem

Nid yw ein gwefan yn gwbl hygyrch ar hyn o bryd oherwydd:

  • mae diffyg testun ALT a theitlau tudalennau mewn dogfennau PDF sy’n ymwneud â’n Cynllun Strategol

Gallai archwiliad llawn o’r wefan ddatgelu materion hygyrchedd eraill.

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ddwy wefan ar wahân, yn Saesneg (www.ombudsman.wales) ac yn Gymraeg (www.ombwdsmon.cymru). Bydd unrhyw faterion hygyrchedd sy’n effeithio ar y Saesneg hefyd yn effeithio ar y wefan Gymraeg.

Rhoddodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wybod i ni am y bwriad i ailbrofi ein gwefan ar ôl iddi gael ei lansio’n llawn ym mis Ebrill 2024 i sicrhau bod unrhyw faterion hygyrchedd wedi cael sylw.

 

Manteision creu fersiwn hygyrch

Byddai defnyddwyr yn gallu defnyddio gwefan gwbl hygyrch OGCC, gan helpu i gael gwared ar rwystrau y gallai rhai defnyddwyr fod yn eu hwynebu wrth ymgysylltu â chynnwys OGCC.

 

Baich

Rydym wedi datblygu gwefan newydd, gyda ffocws clir ar fodloni safonau hygyrchedd a chynhaliwyd archwiliad hygyrchedd ym mis Chwefror 2024, cyn lansio’r wefan.

Bydd archwiliad hygyrchedd llawn o’r wefan. Ar hyn o bryd, rydym yn derbyn nad yw dogfennau am ein Cynllun Strategol yn cydymffurfio’n llawn. Byddwn yn parhau i geisio gwella ansawdd y dogfennau hyn ar ôl lansio’r wefan. Gall gymryd peth amser i ddatrys y problemau. Fodd bynnag, rydym yn fodlon bod hygyrchedd cyffredinol ein gwefan newydd wedi gwella llawer ers yr archwiliad diwethaf.

 

Asesiad

Roedd manyleb y tendr ar gyfer y wefan newydd yn pwysleisio bod yn rhaid i’r cynnyrch gydymffurfio’n llwyr â W3C a bod defnyddwyr bregus yn gallu cael gafael arno’n rhwydd. Gwnaethom sicrhau bod dylunwyr ein gwefan wedi ystyried y materion a’r gofynion hyn yn llawn a gwnaethom drefnu profion hygyrchedd ar gyfer y wefan newydd yn ystod y cyfnod datblygu.

Bydd y wefan newydd yn ei lle ar ffurf gysgodol ar 12 Mawrth 2024.

Rydym wedi gofyn i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth beidio ag ail-brofi ein gwefan nes y lansiad llawn ar 10 Ebrill 2024.