Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn sôn am gwynion am dreth y cyngor. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae eich cyngor lleol yn gyfrifol am bennu eich bil a chasglu’r taliad. I wneud hyn, rhaid i’r cyngor gweithio o fewn y gyfraith, y rheoliadau a chanllawiau perthnasol y llywodraeth. Os credwch nad yw’r cyngor wedi dilyn y gyfraith, y rheoliadau neu’r canllawiau, efallai y byddwn yn gallu helpu gyda’ch cwyn.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn:

  • edrych ar gwynion bod y cyngor wedi methu rhoi gwybod ichi’n iawn am fand eich eiddo, eich bil, eich hawl i apelio neu i gymryd mesurau cyn mynd i’r llys;
  • edrych i weld a ydyw’r cyngor wedi cymryd mesurau gorfodi teg a thrwy ddilyn y rheolau;
  • ystyried materion fel oedi afresymol yn gweithredu, methu cydnabod eich apêl, methu cadw cofnodion priodol, methu cyfathrebu’n iawn neu wneud camgymeriadau yn prosesu taliadau.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud:

Ni allwn:

  • prisio eich eiddo i bwrpas treth y cyngor;
  • newid y band y bydd eich eiddo’n disgyn iddo;
  • newid gwerth eich band treth y cyngor;
  • addasu eich bil neu eich taliadau;
  • atal y cyngor rhag cymryd mesurau gorfodi yn eich erbyn;
  • dweud wrth y cyngor sut i gasglu dyled sydd heb ei thalu gennych ar ôl i orchymyn dyled gael ei gymeradwyo;
  • fel arfer, edrych ar gŵyn lle mae neu lle oedd hawl i apelio yn erbyn eich bil treth y cyngor i Dribiwnlys Prisio Cymru.

 

Materion i gadw mewn cof

Treth gyffredinol yw treth y cyngor i helpu i dalu am wasanaethau lleol. Ni all y cyngor gynnig gostyngiad i chi ar eich bil am nad ydych efallai’n elwa’n bersonol o rai gwasanaethau lleol.

Mae eich band treth y cyngor yn cael ei bennu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os credwch fod y band yn anghywir, dylech gysylltu â’ch swyddfa brisio leol, mae eu manylion ar gael yn https://www.voa.gov.uk/

Mae gennych hawl i apelio’n gyfreithiol yn erbyn nifer o benderfyniadau treth y cyngor. Os credwch fod eich bil yn anghywir neu mai nid chi sy’n gyfrifol am y bil, dylech ysgrifennu at y cyngor i ddechrau. Os nad yw’r mater yn cael ei ddatrys, efallai y bydd gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor i Dribiwnlys Prisio Cymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.valuation-tribunals-wales.org.uk/

 

Gwybodaeth bellach

Gallwch dderbyn cyngor annibynnol di-dâl ar apelio yn erbyn eich bil treth y cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth leol, mae eu manylion ar gael yn www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Mae mwy o wybodaeth fanwl am dreth y cyngor ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/counciltax/cy

Efallai y bydd gwefan y cyngor ei hun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut y gweinyddir treth y cyngor yn eich ardal leol.

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen