Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch niwsans sŵn. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion ynghylch niwsans sŵn o adeiladau domestig neu fusnes yn ei ardal ac am gymryd mesurau gorfodi priodol lle mae’n cadarnhau bod niwsans statudol yn cael ei achosi. Fel arfer, gwneir hyn drwy Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor. Mae’n rhaid i’r Cyngor weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn ei bolisïau a’i weithdrefnau ei hun.

Os yw’r sŵn yn dod o dŷ sy’n cael ei rentu gan Gymdeithas Dai neu gan y Cyngor, mae modd mynd at y landlord ynglŷn â’r niwsans sŵn gan ei denantiaid.  Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael mewn taflen ffeithiau arall dan y teitl “Ymddygiad Gwrthgymdeithasol”.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn ymchwilio i gwynion am sut y deliodd y Cyngor â chwynion ynghylch niwsans sŵn a wnaed iddo. Gallwn ystyried a wnaeth y Cyngor unrhyw beth o’i le wrth ymchwilio i’ch cwyn ynghylch sŵn ac, os felly, a arweiniodd hyn at greu problemau ychwanegol ichi. Gallwn edrych ar:

  • methu ymchwilio i gŵyn ynghylch niwsans sŵn sy’n parhau a sefydlu a oedd yna broblem sŵn;
  • oedi afresymol yn ymchwilio i gŵyn ynghylch niwsans sŵn;
  • methu cymryd camau gorfodi neu fesurau i ddatrys y broblem ar ôl i’r Cyngor gadarnhau bod problem niwsans sŵn statudol yn bodoli;
  • methu egluro canlyniad yr ymchwiliad ichi;
  • methu ystyried yr holl wybodaeth berthnasol a oedd ar gael neu ddod i’w benderfyniad ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu amherthnasol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • ymchwilio i gwynion ynghylch niwsans sŵn (dim ond y Cyngor sy’n gallu ymchwilio i’r rhain);
  • dod i benderfyniad ynghylch a ydyw’r sŵn yr ydych yn cwyno yn ei gylch yn niwsans o dan y gyfraith;
  • mynd yn groes i benderfyniad y Cyngor ynghylch a ydyw’r sŵn yn niwsans o dan y gyfraith ac ynghylch y camau gorfodi a gymrodd.

 

Materion i gadw mewn cof

Os ydych yn dioddef o niwsans sŵn, rhaid i chi roi gwybod i’r Cyngor cyn gynted â phosibl gan roi manylion y sŵn a’r dyddiadau a’r amseroedd y digwyddodd. Ni all y Cyngor ymyrryd yn syth i atal y sŵn, mae angen iddo ymchwilio i sefydlu natur y broblem. Efallai y bydd yn gofyn i chi lenwi dyddiadur i gofnodi manylion y broblem fel rhan o’i ymchwiliad.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai y bydd gan y Cyngor fwy o wybodaeth am sut y mae’n delio â chwynion sŵn a / neu bolisi gorfodi ysgrifenedig y gallwch ei ddarllen, ar ei wefan. Am gyngor ar wneud cwynion ynghylch niwsans sŵn, dylech gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn uniongyrchol.

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen