Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion sy’n ymwneud â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn grant gorfodol gan y cyngor sy’n helpu i dalu costau addasu cartref person anabl er mwyn iddo allu parhau i fyw yno mor annibynnol ag y bo modd. Gall tenantiaid, perchen-feddianwyr a landlordiaid sydd â thenant ag anabledd wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Grant prawf modd ar gyfer oedolion anabl (ond nid ar gyfer plant anabl dan 19 oed) yw’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Golyga hyn, gan ddibynnu ar eich incwm, eich cynilion a’ch gwariant, y bydd yn rhaid i chi o bosibl gyfrannu at gost y gwaith. Yng Nghymru, y swm uchaf y gellir ei ddyfarnu ar hyn o bryd yw £36,000.

Dyma enghreifftiau o’r mathau o addasiadau y gall y Grant dalu amdanynt:

  • lledu drysau a gosod rampiau neu lifftiau grisiau;
  • gwneud addasiadau i’r gegin a’r ystafell ymolchi e.e. i gael cawod y gellir cerdded i mewn iddi;
  • estyniadau (ar gyfer ystafell ymolchi a/neu ystafell wely i lawr y grisiau o bosibl);
  • gosod system wresogi addas sy’n diwallu anghenion y person anabl;
  •  addasu dulliau rheoli’r system wresogi neu oleuo er mwyn iddynt fod yn haws eu defnyddio.

Cyn y bydd cais ffurfiol am Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei ystyried, fel arfer bydd angen i therapydd galwedigaethol o’r adran gwasanaethau cymdeithasol asesu anghenion y person anabl, a gweld a yw’r gwaith “yn angenrheidiol ac yn briodol”.  Fel rheol, bydd argymhellion y therapydd galwedigaethol yn cael eu rhoi i’r Adran Dai sy’n gweinyddu Grant Cyfleusterau’r Anabl.  Yna bydd y cyngor yn gorfod penderfynu a yw’n “rhesymol ac yn ymarferol” gwneud y gwaith.

Gan ddibynnu ar argymhellion y therapydd galwedigaethol, gallai cyngor gyflawni nifer o archwiliadau eraill yn y cyfnod ymholiadau cychwynnol. Dylai eich cyngor lleol allu dweud mwy wrthych, gan gynnwys a oes angen i chi lenwi ffurflen ymholiadau cyn ymgeisio am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.  Pan fydd y cam hwn wedi’i gwblhau’n foddhaol, bydd angen i chi fel arfer gyflwyno cais ffurfiol am Grant Cyfleusterau i’r Anabl ynghyd â dogfennau eraill.

Os yw’r cyngor wedi cael y wybodaeth berthnasol, yn gyfreithiol, mae’n rhaid iddo gymeradwyo cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl o fewn chwe mis iddo ddod i law.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn edrych ar:

  • a yw’r Cyngor wedi oedi’n afresymol yn ystod y cyfnod cyn ac ar ôl i chi wneud cais am y Grant Cyfleusterau i’r Anabl, gan gynnwys trefnu asesiad gan therapydd galwedigaethol;
  • os gwrthodir cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl, a yw’r cyngor wedi ystyried yr holl wybodaeth y mae’r ymgeisydd wedi’i chyflwyno ac wedi cynnal unrhyw broses apelio fewnol yn gywir;
  • a yw’r cyngor wedi cyflawni ei swyddogaethau arolygu/monitro yn ddigonol (nid yw’r cyngor yn gyfrifol am oruchwylio gwaith contractwr/adeiladwr o ddydd i ddydd fel arfer).

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn yr Ombwdsmon:

  • delio ag anghydfodau cyfreithiol rhyngoch chi a’r contractwr sy’n gwneud y gwaith;
  • gwneud i’r cyngor roi Grant Cyfleusterau i’r Anabl dyfarniad uwch os yw’r penderfyniad wedi cael ei wneud yn briodol.

 

Materion i gadw mewn cof

  • Os ydych chi’n denant i Gymdeithas Dai neu’n denant i Gymdeithas a grëwyd ar ôl trosglwyddo stoc, dylech holi a oes gan eich landlord ei gynllun ei hun ar gyfer addasu ei adeiladau
  • Wrth benderfynu a yw’r gwaith yn rhesymol ac yn ymarferol, mae oed a chyflwr yr eiddo yn rhai o’r ffactorau a ystyrir. Er enghraifft, efallai fod cynllun y tŷ yn golygu nad oes modd gosod lifft grisiau, neu efallai fod yr eiddo wedi adfeilio a bod angen gwneud cryn dipyn o waith atgyweirio arno. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd y cyngor yn penderfynu ei bod yn fwy cost-effeithiol i berson symud i lety arall sy’n fwy addas
  • Weithiau, bydd yn rhaid gwneud gwaith ychwanegol a fydd yn golygu bod y gost yn uwch na’r dyfarniad uchaf y gellir ei roi ar gyfer Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Mae gan y cyngor yr hawl i roi cymorth ychwanegol, ar ffurf benthyciad weithiau. Er nad oes rhaid i gyngor roi cymorth yn ôl ei ddisgresiwn, dylai ystyried cais am gymorth o’r fath
  • Er nad oes rhaid iddo wneud hynny, mae gan gyngor hawl i roi Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn ôl ei ddisgresiwn ar gyfer addasiadau nad ydynt yn orfodol o dan y Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

 

Gwybodaeth bellach

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn y mannau canlynol:

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru