Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion sy’n ymwneud â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Dylid ei darllen gyda’r llyfryn gwybodaeth gyffredinol, sydd ar gael yma.
Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn grant gorfodol gan y cyngor sy’n helpu i dalu costau addasu cartref person anabl er mwyn iddo allu parhau i fyw yno mor annibynnol ag y bo modd. Gall tenantiaid, perchen-feddianwyr a landlordiaid sydd â thenant ag anabledd wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Grant prawf modd ar gyfer oedolion anabl (ond nid ar gyfer plant anabl dan 19 oed) yw’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Golyga hyn, gan ddibynnu ar eich incwm, eich cynilion a’ch gwariant, y bydd yn rhaid i chi o bosibl gyfrannu at gost y gwaith. Yng Nghymru, y swm uchaf y gellir ei ddyfarnu ar hyn o bryd yw £36,000.
Dyma enghreifftiau o’r mathau o addasiadau y gall y Grant dalu amdanynt:
Cyn y bydd cais ffurfiol am Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei ystyried, fel arfer bydd angen i therapydd galwedigaethol o’r adran gwasanaethau cymdeithasol asesu anghenion y person anabl, a gweld a yw’r gwaith “yn angenrheidiol ac yn briodol”. Fel rheol, bydd argymhellion y therapydd galwedigaethol yn cael eu rhoi i’r Adran Dai sy’n gweinyddu Grant Cyfleusterau’r Anabl. Yna bydd y cyngor yn gorfod penderfynu a yw’n “rhesymol ac yn ymarferol” gwneud y gwaith.
Gan ddibynnu ar argymhellion y therapydd galwedigaethol, gallai cyngor gyflawni nifer o archwiliadau eraill yn y cyfnod ymholiadau cychwynnol. Dylai eich cyngor lleol allu dweud mwy wrthych, gan gynnwys a oes angen i chi lenwi ffurflen ymholiadau cyn ymgeisio am Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Pan fydd y cam hwn wedi’i gwblhau’n foddhaol, bydd angen i chi fel arfer gyflwyno cais ffurfiol am Grant Cyfleusterau i’r Anabl ynghyd â dogfennau eraill.
Os yw’r cyngor wedi cael y wybodaeth berthnasol, yn gyfreithiol, mae’n rhaid iddo gymeradwyo cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl o fewn chwe mis iddo ddod i law.
Gall edrych ar:
Ni all yr Ombwdsmon:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn y mannau canlynol:
Gellir gweld enghreifftiau o achosion y mae’r Ombwdsmon wedi eu hystyried ar ein gwefan. Ewch i www.ombwdsmon.cymru.
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.