Mae’r Ddalen Ffeithiau hon yn ymwneud â Deddf Hawliau Dynol (DHD) 1998 a sut y mae’n ymwneud â gwasanaeth yr Ombwdsmon. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Sut y mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn effeithio ar waith yr Ombwdsmon. Mae’r Ombwdsmon yn ystyried cwynion am gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth ar ran
cyrff cyhoeddus sy’n achosi caledi neu anghyfiawnder i aelodau’r cyhoedd. Wrth benderfynu a ddylai ymchwilio i gŵyn, rhaid iddo ystyried a yw’r awdurdod cyhoeddus dan sylw wedi gweithredu mewn ffordd sy’n anghytûn â’r hawliau a nodir yn y DHD. Sefydlwyd yr hawliau hyn yn gyntaf gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac maent yn hysbys gan gyfres o ‘Erthyglau’.
Os ydych chi’n credu bod penderfyniad gan awdurdod cyhoeddus wedi effeithio ar eich hawliau dynol, efallai y gall yr Ombwdsmon edrych ar eich cwyn.
Gall yr Ombwdsmon:
Y cwynion mwyaf cyffredin yw nad yw awdurdod cyhoeddus wedi ystyried –
Ni all yr Ombwdsmon:
Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cyngor:
Mae enghreifftiau o achosion y mae’r Ombwdsmon wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalennau ‘Ein Canfyddiadau’ a ‘Coflyfr yr Ombwdsmon’.
Os ydych chi’n ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru