Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn ymwneud â chwynion ynghylch yr Arolygiaeth Gynllunio (Cymru). Dylid ei darllen ar y cyd â’n llyfryn gwybodaeth gyffredinol, ar gael yma.
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio (Cymru) yn un o asiantaethau gweithredol Llywodraeth Cymru. Ei phrif waith yw prosesu apeliadau cynllunio a gorfodi a chynnal ymchwiliadau i gynlluniau datblygu lleol.
Mae hefyd yn delio ag ystod eang o waith arall sy’n ymwneud â chynllunio, gan gynnwys:
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio (Cymru) hefyd yn delio ag apeliadau amgylcheddol ac achosion hawliau tramwy.
Mae’r Ombwdsmon yn gallu edrych ar gwynion am:
Ni all yr Ombwdsmon:
Nid yw cwynion am benderfyniadau cynllunio unigol sydd wedi cael eu gwneud gan Gynghorau lleol yng Nghymru yn faterion i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylid cyfeirio’r cwynion hyn at y Cyngor dan sylw yn y lle cyntaf, a gallai fod yn fater i’r Ombwdsmon.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein Taflen Wybodaeth am Geisiadau Cynllunio. Mae hon ar gael ar y wefan, mae’r cyfeiriad isod.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Arolygiaeth Gynllunio (Cymru), gan gynnwys eu trefn gwyno, ar gael ar y wefan:
http://www.planning-inspectorate.gov.uk/cymru/wal/index_e.htm
Mae cyngor cyffredinol ar bob agwedd ar gynllunio defnydd tir yng Nghymru ar gael gan Cymorth Cynllunio Cymru. Caiff yr wybodaeth hon ei darparu am ddim. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cymorth Cynllunio Cymru:
www.cymorthcynlluniocymru.org.uk
Nid oes angen i chi wneud eich cwyn i’r Ombwdsmon gan ddefnyddio cyfreithiwr neu unrhyw adfocad arall; mae ei wasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn ddiduedd, a’n nod yw gwneud y broses mor hawdd â phosibl i bobl ei dilyn.
Ni all yr Ombwdsmon orchymyn bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu ar ei argymhellion – ond, yn ymarferol, maent yn gwneud hynny bron bob tro. Mae enghreifftiau o achosion yr edrychwyd arnynt gan yr Ombwdsmon i’w gweld ar ein gwefan: www.ombwdsmon.cymru.
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.