Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion am Orfodaeth Gynllunio. Dylid ei darllen gyda’r daflen sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol, ar gael yma.
Y Cyngor yw’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ei ardal (mewn rhai ardaloedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n gwneud hyn). Mae awdurdodau cynllunio’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a gweithredu ar amrywiol faterion cynllunio. Rhaid iddynt weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn polisi’r awdurdod ei hun. Efallai y bydd yr Ombwdsmon yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn yn erbyn awdurdod cynllunio.
Bydd yn gallu:
Ni fydd yn gallu:
Mae cryn dipyn o ddatblygu’n gallu digwydd heb ganiatâd cynllunio felly efallai na fydd angen i gyngor weithredu.
Gall cyngor ddewis peidio â chymryd camau gorfodi os yw’n meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
Mae canllawiau’r llywodraeth yn annog cynghorau i roi cynnig ar ddulliau anffurfiol o ddelio â phroblemau cynllunio. Fel rheol, byddai’n cymryd camau gorfodi ffurfiol yn niffyg unrhyw ateb arall.
Mae canllawiau’r llywodraeth yn annog cynghorau i ystyried y posibilrwydd o ofyn i ddatblygwyr gyflwyno ôl-gais os yw’r caniatâd cynllunio wedi cael ei dorri.
Efallai y bydd gan y cyngor bolisi gorfodaeth ysgrifenedig a dylech gael darllen y polisi hwn, neu efallai y bydd ar ei wefan.
Gall Cymorth Cynllunio Cymru roi gwybodaeth ddefnyddiol ar faterion cynllunio ichi. Gallwch eu ffonio ar 029 2048 5765 neu fynd i’r we yn http://www.planningaidwales.org.uk
Mae gwybodaeth am gynllunio hefyd ar gael yn http://www.planningportal.gov.uk/wales/public
Bydd gwefan y Cyngor ei hun hefyd efallai’n cynnwys gwybodaeth am rai materion cynllunio.
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol a di-duedd; ni all orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn y mae’n ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.
Mae enghreifftiau o achosion yr edrychodd yr Ombwdsmon arnynt ar ein gwefan. Ewch i www.ombwdsmon.cymru
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.