Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn egluro sut y gallwch gwyno am Gynghorau Cymuned a Thref. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’. Efallai yr hoffech hefyd ddarllen ein Taflenni Ffeithiau eraill sy’n ymdrin â meysydd gwasanaeth cyhoeddus penodol.

Mae 735 o Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru sy’n cynrychioli’r haen o lywodraeth sydd agosaf at y bobl. Mae’r cymunedau a wasanaethir gan y Cynghorau hyn yn amrywio o aneddiadau gwledig bychain i drefi mawr, ac mae cyllideb pob Cyngor yn amrywio. Fodd bynnag, yr un nod sy’n gyffredin i bob Cyngor yw gwasanaethu eu cymunedau a gwella ansawdd bywyd yn eu hardal. Gellir sefydlu neu ymwahanu Cynghorau Cymuned a Thref yn ôl dymuniadau’r gymuned.

Yn ogystal â gweithredu fel rôl gynrychioliadol, mae Cynghorau Cymuned a Thref yn aml yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, megis:

  • Cynnal a chadw a rheoli neuaddau cymuned
  • Arosfannau bysiau
  • Caeau chwarae
  • Darnau o dir
  • Mannau cyhoeddus

Mae Cynghorau Cymuned a Thref yn cynnwys aelodau etholedig neu, mewn rhai achosion, aelodau cyfetholedig.

Mae Cynghorau Cymuned a Thref yn gweithredu’n unol â phwerau a dyletswyddau statudol. Mae gweithdrefnau penderfynu pob cyngor yn aml yn seiliedig ar gyfres o reolau sefydlog; fel rheol, bydd copïau o’r rhain ar gael gan Glerc y Cyngor a/neu wefan y cyngor.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Os ydych yn credu nad yw Cyngor Cymuned neu Dref wedi dilyn y gyfraith, rheoliadau neu ei weithdrefnau ei hun, efallai y gallwn eich helpu. O gofio’r amrywiaeth eang o swyddogaethau cymunedol y mae Cynghorau Cymuned a Thref yn gyfrifol amdanynt, gall y mathau o gwynion a wneir i ni yn erbyn y Cynghorau hyn fod yr un mor amrywiol.

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o gwynion y gallwn eu hystyried:

  • penderfyniadau neu gamau a gymerwyd gan Gyngor sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau a ddarperir ganddo
  • gweithdrefnau a fabwysiedir gan Gyngor yn ei gyfarfodydd;
  • arferion recriwtio

Ni fyddwn yn ymchwilio i gŵyn oni bai bod unigolyn (neu, mewn rai achosion, grŵp o unigolion) wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi personol oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithredu ar ran Cyngor Cymuned neu Dref. Fel rheol, rhaid i’r gŵyn gael ei gwneud gan y person sydd wedi dioddef yr anghyfiawnder, caledi neu golled dan sylw (neu eu cynrychiolydd).

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • newid penderfyniad a wnaethpwyd yn briodol gan gyngor;
  • fel arfer, ni allwn ymchwilio i gŵyn os oes, neu os oedd, hawl i apelio;
  • fel arfer, ni allwn ymchwilio i gŵyn os oes ffordd gyfreithiol o unioni’r sefyllfa.

 

Materion i gadw mewn cof

  • Mae cwynion sy’n ymwneud ag ymddygiad aelodau unigol Cyngor Cymuned neu Dref yn cael eu hystyried o dan broses wahanol. Gweler ein Taflen Ffeithiau Cod Ymddygiad – Gwybodaeth Gyffredinol am wybodaeth.
  • Fel rheol, dylai cwynion sy’n ymwneud â phenderfyniadau neu gamau a gymerwyd gan Gyngor Cymuned neu Dref gael eu cyfeirio’n gyntaf at Glerc y cyngor. Dylai copi o bolisi cwyno’r cyngor fod ar gael ar ei wefan neu gan y Clerc.
  • Nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio cyfreithiwr neu unrhyw eiriolwr arall i wneud cwyn i ni.

 

Gwybodaeth bellach

Mi gewch gyngor cyfreithiol di-dâl ac annibynnol am y gwasanaethau a ddarperir gan eich Cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth leol: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Gall gwefan eich Cyngor hefyd gynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir yn eich ardal ac am weithdrefnau’r Cyngor. Neu, gallwch gysylltu â Chlerc y cyngor.

Mae gwybodaeth am Gynghorau Cymuned a Thref ar gael hefyd gan Un Llais Cymru, y mudiad sy’n cynrychioli ac sy’n darparu gwasanaethau cymorth i Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru: www.unllaiscymru.org.uk

Rydym yn annibynnol ac amhleidiol; ni all orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn mae’n ei argymell – ond, fel arfer, maent yn gwneud hynny bron yn ddieithriad. Ceir enghreifftiau o achosion yr ydym wedi ymchwilio iddynt ar ein gwefan. Ewch i www.ombwdsmon.cymru/

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

Hawdd ei Ddarllen