Dewis eich iaith
Cau
Yn ôl

Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn esbonio sut yr ydym yn ystyried cwynion pan efallai fod gennych (neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar eich rhan) rwymedi cyfreithiol ar gael yn y Llysoedd.

Dyma rai enghreifftiau o rwymedïau cyfreithiol a allai fod ar gael os ydych yn anfodlon â’r ffordd y mae corff cyhoeddus yng Nghymru wedi eich trin:

  • hawliad yn ymwneud ag esgeuluster clinigol mewn achosion iechyd
  • hawliad yn ymwneud â thorri contract os yw corff cyhoeddus wedi methu â gwneud rhywbeth y mae ef o dan rwymedigaeth gytundebol i’w wneud
  • neu hawliad yn ymwneud ag iawndal os yw corff cyhoeddus (neu rywun sy’n gwneud gwaith ar ei ran) wedi achosi difrod i eiddo rhywun.

Y gyfraith sy’n berthnasol pan ymddengys bod dewis i achwynydd fynd ar drywydd rhwymedi cyfreithiol yn erbyn corff cyhoeddus 

Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn dweud na allwn ymchwilio i gwynion o gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth yn erbyn cyrff cyhoeddus os oes gennych chi (neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar eich rhan) rwymedi cyfreithiol ar gael trwy’r Llysoedd.

Mae eithriad i’r rheol hon, sef os rydym yn fodlon bod amgylchiadau eich achos yn golygu nad yw’n rhesymol disgwyl ichi gymryd, neu ddisgwyl i chi fod wedi cymryd, camau cyfreithiol.   Os felly, gallwn ymchwilio i gwynion o gamweinyddu a methiant gwasanaeth am gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn y ffordd arferol.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein taflen ffeithiau ‘Yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am gorff cyhoeddus yng Nghymru‘ ar y dudalen ‘Taflenni Ffeithiau’, o dan y tab ‘Amdanom ni’

 

Beth a wnawn os yw’n ymddangos o’ch cwyn bod rhwymedi cyfreithiol ar gael ichi

Er mwyn inni allu penderfynu’n deg a yw’n rhesymol ichi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y corff cyhoeddus rydych yn cwyno amdano, efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am ragor o wybodaeth am eich amgylchiadau, yn ychwanegol at y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi ar eich ffurflen gwyno.

Dyma’r math o wybodaeth rydym yn debygol o ofyn ichi amdani:

  • eich amgylchiadau personol a’r rhesymau pam nad ydych chi’n meddwl y gallwch chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y corff cyhoeddus
  • y rhwymedi neu ganlyniad rydych chi’n ei geisio
  • a ydych chi wedi cyfarwyddo cyfreithiwr a/neu a oes gennych yswiriant cyfreithiol neu gymorth cyfreithiol i helpu i ariannu unrhyw gamau cyfreithiol

 

Materion i gadw mewn cof

Gellir canfod gwybodaeth fanylach ar ba gamau y gallwn ei ofyn i gorff cyhoeddus eu cymryd i ddatrys eich cwyn yn ein taflen ffeithiau Rhwymedïau, ar y dudalen ‘Taflenni Ffeithiau’, o dan y tab ‘Amdanom ni’.

Os mai rhwymedi y mae’r Llysoedd yn ei ddyfarnu’n gyffredinol yw’r un rydych yn ei geisio, yna gallwn ddod i’r casgliad mai achos Llys yw’r llwybr priodol i chi ei ddilyn. Enghraifft o hyn yw iawndal ariannol sylweddol.   Os ydych yn ceisio sawl rhwymedi gwahanol, er enghraifft, ymddiheuriad, atebion i’ch cwestiynau am y ffordd y cawsoch eich trin ac iawndal ariannol, byddwn yn ystyried yn ofalus y wybodaeth a ddarparwch wrth benderfynu a yw’n briodol i ni ystyried eich cwyn.

Os dewiswch beidio â chymryd camau cyfreithiol pan ymddengys bod hwn yn ddewis a oedd ar gael ichi ar adeg y digwyddiadau rydych yn cwyno amdanynt, bydd hyn yn cael ei ystyried.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu ystyried eich cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru