Mae ein telerau penodi a’n swyddogaethau statudol wedi eu nodi yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (“Deddf yr Ombwdsmon”).
Mae’r Ombwdsmon yn cael ei benodi gan y Brenin yn dilyn argymhelliad gan Senedd Cymru. Mae’r penodiad am gyfnod o saith mlynedd ac nid yw’r sawl a benodir yn gymwys i gael ei ail-benodi i swydd yr Ombwdsmon. Gall yr Ombwdsmon gael ei ryddhau o’r swydd os bydd y Senedd yn argymell hyn i’r Brenin.
Mae’r Ombwdsmon yn ddiduedd ac yn annibynnol. Mae hyn yn golygu y bydd yr Ombwdsmon (neu aelodau o’i staff y mae wedi dirprwyo ei swyddogaeth i’w gofal) yn ystyried cwynion yn annibynnol. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae ganddi bwerau a chyfrifoldebau statudol i adrodd yn uniongyrchol i’r Senedd. Mae’r Ombwdsmon yn adrodd yn ôl yn flynyddol i’r Senedd ar sut y cyflawnodd ei swyddogaethau, ar y gwasanaeth a ddarparwyd ac ar sut y defnyddiwyd arian cyhoeddus.
Mae Deddf yr Ombwdsmon yn darparu bod yr Ombwdsmon yn “Gorfforaeth Unigol” sy’n golygu ei bod yn endid cyfreithiol yn ei rhinwedd ei hun.
Er mwyn cydnabod annibyniaeth ein swyddfa, y Senedd fydd yn darparu’r cyllid (hynny yw, drwy Gronfa Gyfunol Cymru) ac nid Llywodraeth Cymru. Nid ydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd nac yn atebol i un o weinidogion y llywodraeth. Fodd bynnag, rydym wedi sefydlu Panel Cynghori o aelodau annibynnol i’n cynghori ar faterion polisi a llywodraethu da a darparu safbwynt allanol ar ein gwasanaeth. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r cyfrifoldeb a’r atebolrwydd am y gweithgareddau a gaiff eu cyflawni gan y swyddfa aros gyda’r Ombwdsmon, ac nid oes gan y Panel Cynghori unrhyw rôl o ran ymdrin â chwynion unigol.
Rydym yn delio â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd yn erbyn cyrff a restrir yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru, byrddau iechyd, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru.
Mae Deddf yr Ombwdsmon yn darparu mai mater i ni yw penderfynu a ddylid cychwyn, terfynu neu gwblhau ymchwiliad a chyhoeddi ei adroddiad. Pan fyddwn wedi dirprwyo ein swyddogaeth i aelod o’n staff, gall achwynydd ofyn i ni adolygu unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch cwyn lle mae tystiolaeth newydd yn cael ei darparu, neu lle mae’n glir nad yw rhywfaint o dystiolaeth wedi cael ei hystyried yn briodol. Bydd yr adolygiad mewnol hwn yn cael ei gynnal gan ein Swyddog Adolygu & Ansawdd Gwasanaeth, neu uwch aelod arall o’r staff, nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol.
Os yw achwynydd yn dymuno herio unrhyw benderfyniad gennym yn dilyn hynny, gall geisio cyngor cyfreithiol ynghylch a oes sail i herio ein penderfyniad drwy adolygiad barnwrol yn y llysoedd.
Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.