Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Hawl i aelod o’r cyhoedd fynd ar hyd llwybr dros dir a all fod yn eiddo preifat, yw hawl tramwy cyhoeddus.  Mae gwahanol fathau o hawliau tramwy. Mae’r rhain yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffylau, llwybrau beiciau a chilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig.  Y cyngor, fel yr awdurdod priffyrdd, sy’n cynnal map a datganiad diffiniol o’r hawliau tramwy cyhoeddus yn ei ardal. Mae hwn yn darparu tystiolaeth bendant am fodolaeth hawl tramwy.

Os yw aelod o’r cyhoedd yn credu y dylid ychwanegu hawl tramwy at y map diffiniol neu y dylid dileu hawl tramwy oddi ar y map hwnnw, caiff wneud cais am orchymyn i’r map gael ei addasu. Gall Cynghorau gychwyn ar y drefn hefyd. Pan fydd cyngor yn ystyried a ddylid diwygio’r map diffiniol, bydd yn casglu tystiolaeth am y defnydd hanesyddol er mwyn ystyried a ddylid gwneud y gorchymyn. Mae modd i dirfeddianwyr wneud ceisiadau i greu, dargyfeirio neu ddileu hawl tramwy cyhoeddus hefyd.  Mae gan y cyhoedd ac ymgyngoreion statudol hawl i fynegi eu gwrthwynebiad i wneud y gorchmynion hyn. Os na chaiff y gwrthwynebiadau eu tynnu’n ôl, caiff y mater ei gyfeirio at yr Arolygaeth Gynllunio, i wneud penderfyniad yn ei gylch ar ran Gweinidogion Cymru. Pan fydd hawl tramwy wedi cael ei sefydlu, mae gan awdurdod priffyrdd ddyletswydd i fynnu ac amddiffyn hawliau’r cyhoedd i’w ddefnyddio, ac atal unrhyw rwystrau, ac mae ganddo bwerau gorfodi cyfreithiol.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn ystyried cwynion bod awdurdod priffyrdd wedi methu â sicrhau bod rhwystrau ar hawliau tramwy cyhoeddus wedi cael eu symud a bod yr hawl i ddefnyddio’r llwybr wedi cael ei gynnal.

Gallwn edrych ar ormod o oedi ac anghysonderau gweithdrefnol yng ngwaith y cyngor o ran asesu a phenderfynu ar geisiadau, er enghraifft gorchmynion addasu neu ddargyfeirio.  Caiff unrhyw un sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod priffyrdd lleol i gael addasu map a datganiad diffiniol yr ardal, ac sydd ddim wedi cael gwybod beth yw’r penderfyniad o fewn 12 mis ar ôl derbyn cais dilys, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am gyfarwyddyd.  Efallai y bydd Llywodraeth Cymru’n cyfarwyddo’r awdurdod i wneud penderfyniad ynghylch y cais erbyn dyddiad penodol, er nad yw’n gyfreithiol-rwym.

Gallwn ymchwilio i bryderon ynghylch ffordd y mae cyngor wedi ymateb i gŵyn drwy ei drefn gwyno.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn edrych ar benderfyniad lle ceir hawl i apelio i Lywodraeth Cymru.  Ceir hawl o’r fath, drwy’r Arolygiaeth Gynllunio, pan fydd cais i gael cynnwys hawl tramwy ar y gorchymyn map diffiniol, yn cael ei wrthod.

Disgwylir i ymgeiswyr arfer eu hawl i apelio – oherwydd mai’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r corff priodol ar gyfer penderfynu ar deilyngdod cais.

Ni allwn ymchwilio i gŵyn ynghylch penderfyniad sydd wedi cael ei wneud heb gamweinyddu. Dan yr amgylchiadau hyn, ni allwn gwestiynu pa mor deilwng yw’r penderfyniad.

 

Materion i gadw mewn cof

Mae’r broses o ystyried a phenderfynu ar geisiadau neu hawliadau i ddiwygio’r map a’r datganiad diffiniol yn cymryd cryn dipyn o amser weithiau, oherwydd bod angen i awdurdodau priffyrdd edrych ar dystiolaeth am y defnydd o’r llwybr o dan sylw. Mae swyddogion hawliau tramwy o dan bwysau hefyd oherwydd niferoedd a hyd y llwybrau o dan awdurdodaeth eu hawdurdod.

Nid yw caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar hawl tramwy o anghenraid yn golygu y bydd yr hawl tramwy o dan sylw’n cael ei ddiddymu neu ei ddargyfeirio.

 

Gwybodaeth bellach

Mae modd i chi gael gwybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus yn eich ardal gan eich awdurdod priffyrdd lleol.

Mae’r ffynonellau isod yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am hawliau tramwy hefyd:

  • Cymdeithas y Cerddwyr www.ramblers.org.uk
  • Cymdeithas Lleoedd Agored www.oss.org.uk
  • Sefydliad Hawliau Tramwy a Rheoli Mynediad www.iprow.co.uk

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen